Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgyrch i gefnogi myfyrwyr i ailgylchu yn Abertawe'n dechrau

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr newydd a'r rheini sy'n dychwelyd i Abertawe i'w helpu i reoli eu gwastraff cartref.

singleton pop up

Mae Tîm Ailgylchu Cyngor Abertawe'n cydweithio â Phrifysgol Abertawe i gyflwyno ymgyrch ailgylchu 'Sortwch e' eleni er mwyn ceisio rhoi miloedd o fyfyrwyr ar y trywydd iawn.

Dosbarthwyd dros 1,600 o becynnau ailgylchu i fyfyrwyr i gartrefi mewn ardaloedd lle mae myfyrwyr yn byw, gan gynnwys Brynmill, Uplands, St Thomas a Mount Pleasant.

Y mis hwn, bydd pabell arbennig dros dro wedi'i lleoli ym Mharc Singleton unwaith yr wythnos, lle bydd tîm yn siarad â channoedd o fyfyrwyr wrth iddynt gerdded yn ôl ac ymlaen i'w darlithoedd. Byddant yn rhoi sachau ailgylchu, blychau bwyd a phecynnau gwybodaeth fel bod pawb yn gwybod pa ddiwrnod y bydd eu gwastraff yn cael ei gasglu a pha wastraff y dylid ei roi yn y sachau gwahanol.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae wythnosau cyntaf y tymor yn gallu bod yn rhai eithaf anodd a phrysur i fyfyrwyr sy'n newydd i'r ddinas, felly mae angen i ni wneud yr hyn y gallwn i'w gwneud mor hawdd â phosib iddynt ddod yn gyfarwydd â gwasanaethau fel ailgylchu.

"Bydd y pecynnau rydym wedi eu hanfon i fyfyrwyr sy'n byw yn ein dinas yn rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ymuno â'r mwyafrif o breswylwyr eraill yn Abertawe, a'n helpu i ailgylchu gwastraff cartref.

"Mae hefyd yn bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol o ddyddiau casglu eu sbwriel fel ein bod yn gallu osgoi cael sachau ailgylchu wedi'u gadael ar y stryd gan greu llanast.

"Mae'r digwyddiadau dros dro rydym wedi'u trefnu wedi bod yn llwyddiannus iawn er mwyn rhoi gwybodaeth werthfawr i'n preswylwyr newydd.

"Mae'n debygol bod llawer ohonynt yn dod o ddinasoedd neu drefi gwahanol lle mae'r casgliadau gwastraff ychydig yn wahanol, felly rydym am roi cymaint o gefnogaeth â phosib i'w helpu i wneud y newid hwnnw a bod yn rhan o'n cymunedau.

Bydd swyddogion ailgylchu hefyd yn monitro'r strydoedd lle mae'r pecynnau wedi cael eu dosbarthu, ac yn cynnig help ychwanegol i fyfyrwyr sy'n byw yn y ddinas os maent yn gweld sachau pinc yn cael eu gadael yn ystod wythnos werdd, ac i'r gwrthwyneb.

Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Nid ydym yn disgwyl i bob un o'n preswylwyr newydd gael popeth yn iawn y tro cyntaf felly rydym am sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir fel nad ydynt yn gwneud camgymeriadau yn y dyfodol."

Mae cefnogaeth ar-lein hefyd ar gael yn arbennig i fyfyrwyr, sy'n darparu digon o wybodaeth am gasgliadau gwastraff.

Close Dewis iaith