Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyfle i ddweud eich dweud ar lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe

Mae cannoedd o breswylwyr yn Abertawe wedi bod yn mynegi'u barn am lwybrau cerdded a beicio cyn i fap newydd o lwybrau ar draws y ddinas gael ei gyhoeddi.

cycling stock pic

Cymeradwyodd Cyngor Abertawe ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol yn 2018 ac mae'n cynnwys llwybrau cerdded a beicio presennol ac arfaethedig ar draws Abertawe.

Mae'r cyngor bellach yn y broses o ddiweddaru'r map i gynnwys rhagor o lwybrau arfaethedig y gellid eu datblygu'n y dyfodol ac mae ymgynghoriad cyhoeddus yn mynd rhagddo.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn rhan o fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru lle mae cynghorau'n gwneud ceisiadau am gyllid i greu llwybrau newydd ac annog rhagor o bobl i ddewis beicio a cherdded yn lle'r car.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Rydym wedi cael ymateb da hyd yn hyn gan bobl yn y ddinas sy'n darparu sylwadau ar y llwybrau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu.

"Rydym am glywed o hyd gan bawb sydd â diddordeb mewn gwella llwybrau cerdded a beicio."

Eleni, llwyddodd Abertawe i wneud cais am £3.2 miliwn sy'n cael ei ddefnyddio i greu llwybrau newydd ar draws Abertawe ac a fydd hefyd yn helpu gyda dyluniad a dichonoldeb llwybrau cerdded a beicio'r dyfodol.

Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Ers mabwysiadu'r map gwreiddiol yn ôl yn 2018, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n ein galluogi i wella'n rhwydwaith presennol a chynyddu argaeledd llwybrau oddi ar y ffordd i bawb eu defnyddio.

"Pan fydd y map presennol yn cael ei ddiweddaru a'i gymeradwyo, byddwn yn parhau i wneud cais am gyllid i'n helpu i barhau i ehangu'n rhwydwaith cerdded a beicio."

Mae gan breswylwyr tan 15 Tachwedd i gymryd rhan. Yn ddiweddarach ym mis Hydref, trefnir cyfres o sesiynau galw heibio ac arddangosfeydd fel y gall preswylwyr fynd iddynt i siarad â thimau cludiant y cyngor am y cynlluniau.

I gymryd rhan, cliciwch y ddolen https://www.abertawe.gov.uk/mapteithiollesoldrafft

 

Close Dewis iaith