Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioeau teithiol wedi'u cynllunio fel y gellir gweld y map llwybrau cerdded a beicio

Mae cyfres o sesiynau galw heibio wedi'u trefnu fel y gall y cyhoedd siarad â swyddogion trafnidiaeth am y glasbrint ar gyfer map llwybrau cerdded a beicio Abertawe yn y dyfodol.

cycling stock pic

Mae'r broses ymgynghori â phreswylwyr yn Abertawe eisoes wedi dechrau ac mae Cyngor Abertawe yn gofyn i bawb am ei farn ar lwybrau cerdded a beicio presennol a newydd sydd wedi'u cynllunio ar draws y ddinas. 

Mae preswylwyr wedi gallu mynegi'u barn ar-lein ac maent yn gallu edrych ar y 'Map Rhwydwaith Teithio Llesol' presennol a gynhyrchwyd yn 2018. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 15 Tachwedd.

Mae pum sesiwn galw heibio bellach wedi'u trefnu mewn lleoliadau amrywiol ar draws y ddinas o 15 Hydref. Bydd swyddogion trafnidiaeth wrth law i ateb cwestiynau ac i roi taith dywys i breswylwyr o'r map cyfredol.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn rhan o fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru lle mae cynghorau'n gwneud ceisiadau am gyllid i greu llwybrau newydd ac annog rhagor o bobl i ddewis beicio a cherdded yn hytrach na cheir.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Rydym wedi cael ymateb da hyd yn hyn gan bobl y ddinas sy'n rhoi sylwadau ar lwybrau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu.

"Rydyn ni'n dal eisiau clywed gan bawb sydd â diddordeb mewn gwella llwybrau cerdded a beicio.

"Mae'r sesiynau galw heibio a drefnwyd yn ffordd wych i breswylwyr siarad yn bersonol â'n tîm trafnidiaeth a chael atebion i'w cwestiynau cyn iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."

Eleni, llwyddodd Abertawe i wneud cais am £3.2 miliwn sy'n cael ei ddefnyddio i greu llwybrau newydd trwy Abertawe gyfan a fydd hefyd yn helpu gyda dylunio a dichonoldeb llwybrau cerdded a beicio pellach.

Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Ers mabwysiadu'r map gwreiddiol yn 2018, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n ein galluogi i wella'n rhwydwaith presennol a chynyddu argaeledd llwybrau diogel oddi ar y ffordd i bawb eu defnyddio.

"Pan fydd y map presennol yn cael ei ddiweddaru a'i gymeradwyo, byddwn yn parhau i wneud cais am gyllid i'n helpu i barhau i ehangu ein rhwydwaith cerdded a beicio."

Cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol: Canolfan Ostreme, y Mwmbwls - 15 Hydref (11am-2pm), Llyfrgell Ganolog Abertawe - 16 Hydref (10am-2pm), Canolfan Gymunedol Forge Fach - 18 Hydref (11am-2pm), Llyfrgell Gorseinon - 21 Hydref (4pm-6pm), Canolfan hamdden Pen-lan - 3 Tachwedd (4pm-7pm).

I gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen https://www.abertawe.gov.uk/mapteithiollesoldrafft

 

Close Dewis iaith