Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o ardaloedd chwarae'n cael eu gwella gyda buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd

Mae pedwar yn rhagor o barciau ac ardaloedd chwarae wedi'u gwella gan Gyngor Abertawe i ddarparu llawer mwy o flynyddoedd o chwarae a hwyl i blant a phobl ifanc yn y ddinas.

new play area

Mae'r cyngor yn bwrw ymlaen â rhaglen o welliannau a gwaith uwchraddio mewn dwsinau o ardaloedd chwarae fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2 filiwn.

Mae'r ardaloedd diweddaraf i elwa'n cynnwys Parc Dynfant lle mae'r ardal gemau aml-ddefnydd (MUGA) pob tywydd wedi'i gosod, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, pêl-fasged a phêl-rwyd.

Ym Mhontybrenin, mae'r hen ardal chwarae ar Loughor Road bellach wedi'i disodli gan amrywiaeth eang o gyfarpar chwarae gan gynnwys ffrâm ddringo, siglenni a llithren.

Mae plant ym Mhen-clawdd hefyd yn elwa o ardal chwarae newydd yn Llanyrnewydd ac mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf i'w gwblhau ym Mharc Polly yn St Thomas.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ardaloedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

"Yn ystod y pandemig daeth lleoedd chwarae awyr agored yn hafan i blant ifanc a'u teuluoedd fwynhau'r awyr iach ac ymarfer corff yn ddiogel, ac roedd Cyngor Abertawe yno i gefnogi cymunedau."

Cytunwyd ar waith i uwchraddio 5 lle chwarae pellach yn Mayhill, Treforys, Pennard, Cwmbwrla a fflatiau Rheidiol ym Mynydd-bach.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Mae'r fenter ardaloedd chwarae yn gwneud cynnydd rhagorol, gyda 10 ohonynt wedi'u cwblhau ac wedi'u hagor yn swyddogol.

"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud ac rydym yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ardaloedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."

 Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Hydref 2021