Derbyn grant yw'r cam diweddaraf ar gyfer y cynllun amddiffynfeydd môr
Bydd gwaith pwysig gan Gyngor Abertawe i wella amddiffynfeydd môr y Mwmbwls yn derbyn hwb drwy grant o fwy na £1.7m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor i ddylunio gwelliannau amddiffynnol ar hyd darn 1.2km o lan môr o ardal Oyster Wharf i gerllaw Verdi's.
Parhaodd ymgynghoriad cyhoeddus eleni, a bydd rhagor i ddilyn wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Disgwylir i Gabinet y cyngor drafod y grant pan fydd yn cwrdd ar 21 Hydref.
Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae'r grant hwn ar gyfer ychydig dros £1,735,000 yn talu am gyfanswm y cyllid ar gyfer cam dylunio'r cynllun hwn.
"Bydd yr amddiffynfeydd môr yn amddiffyn cartrefi, busnesau ac ardaloedd hamdden rhag effeithiau lefelau môr cynyddol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.
"Mae barn y cyhoedd a sefydliadau'r Mwmbwls yn bwysig i ni wrth i ni barhau i gynllunio'r gwaith pwysig hwn - a byddwn yn parhau i ymgynghori â nhw.
"Mae'r adborth rydym wedi'i gael o'r rownd ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn ein helpu i ddeall ac egluro safbwyntiau pobl leol a grwpiau â budd. Caiff eu barn ei hystyried yn y cam dylunio."
Mae rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i'r cyngor wella'r morglawdd a mynd i'r afael â'r perygl llifogydd tymor hir a sy'n effeithio ar y gymuned.
Bydd cynlluniau'r Mwmbwls hefyd yn cefnogi'r posibilrwydd o ddatblygu ac adfywio'r ardal yn y dyfodol.
Adeiladwyd yr amddiffynfeydd môr presennol dros ganrif yn ôl.
Cwmni Amey ddatblygodd y cynigion ailwampio cychwynnol yn dilyn sesiynau ymgysylltu â'r gymuned a gynhaliwyd yn 2019. Dangosodd hyn fod pobl leol yn cydnabod bod angen gwella'r amddiffynfeydd môr.
Eleni, casglwyd adborth ar y cynigion dylunio cychwynnol mewn ymgynghoriad pellach. Roedd yr ymgynghoriad tair wythnos - â phobl, busnesau a sefydliadau ar draws y Mwmbwls - wedi helpu i'w hysbysu ynghylch y gwaith sydd ynghlwm wrth y prosiect, cyn cais cynllunio ffurfiol y disgwylir ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.
Meddai'r Cyng. Thomas: "Y nod gydag unrhyw amddiffynfeydd môr newydd yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo."
Mae'r cyngor a'i ymgynghorwyr yn gweithio ar ddyluniad manwl a fydd yn caniatáu gwelliannau i'r promenâd a'r cyfleusterau ar hyd y rhan hon o'r bae yn y dyfodol. Maent yn bwriadu rhoi cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud yn yr wythnosau i ddod.
Llun: Amddiffynfeydd môr y Mwmbwls heddiw.