Toglo gwelededd dewislen symudol

Manteisiwch ar gynnig bysus am ddim Abertawe y penwythnos hwn

Gall preswylwyr Abertawe edrych ymlaen at chwe diwrnod arall o deithio ar fysus am ddim, gan ddechrau'r penwythnos hwn.

half term free bus

Mae Cyngor Abertawe'n ail-lansio menter #BysusAmDdimAbertawe ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Hydref a gall pawb deithio am ddim ar draws y ddinas.

Bydd y fenter arbed arian sy'n ceisio annog pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio cludiant cyhoeddus yn lle yn dychwelyd ar gyfer dau benwythnos hanner tymor, gan ddechrau ddydd Sadwrn 23 Hydref am dridiau'n olynol ac eto ddydd Gwener 29 Hydref tan ddydd Sul 31 Hydref.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod yr adborth ar y fenter yn yr haf wedi bod yn hynod gadarnhaol a bod niferoedd teithwyr wedi cynyddu hyd at 65% ar rai o'r llwybrau prysuraf a weithredwyd ar benrhyn Gŵyr.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Rydym yn wirioneddol falch ein bod yn gallu cynnig y cyfle i bawb deithio ar draws y ddinas am ddim yn ystod hanner tymor mis Hydref.

"Lansiwyd #BysusAmDdimAbertawe gennym i helpu teuluoedd a busnesau wrth iddynt ddod allan o'r pandemig. Mae teuluoedd wedi dweud wrthyf gymaint o wahaniaeth y mae wedi'i wneud iddynt. Roeddent wedi gallu mwynhau dyddiau mas heb orfod poeni am gostau teithio.

"Rhoddodd hwb hefyd i'r gymuned leol, gyda phobl yn teithio i ganol y ddinas a'n hatyniadau cymunedol a'n canolfannau siopa."

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Rydym yn gobeithio y bydd y fenter teithio am ddim ddiweddaraf yn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus unwaith eto yn hytrach na'u ceir, gan leihau llygredd a thagfeydd.

"Roedd yn hwb mawr gweld pa mor boblogaidd oedd menter yr haf. Er nad yw'r tywydd cystal ag yr oedd yn yr haf, mae digon o hyd i deuluoedd ei wneud, a gallant wneud yn fawr o'r awyr agored a'n hatyniadau dan do.

"Rydym eisoes yn ystyried sut i ailgyflwyno'r cynnig ar gyfer gwyliau ysgol y Nadolig hefyd."

Fel rhan o gynnig #BysusAmDdimAbertawe ym mis Hydref rhaid i deithiau teithwyr ddechrau a gorffen o fewn ffin Abertawe yn ystod chwe diwrnod y cynnig, a rhaid i'r daith ddechrau cyn 7pm.

Close Dewis iaith