Cymuned yn rhannu ei barn ar gynlluniau ar gyfer llwybrau beicio yng nghanol y ddinas
Gwahoddwyd preswylwyr a busnesau yn Abertawe i helpu i lunio llwybr cerdded a beicio arfaethedig trwy'r ddinas.
Mae Cyngor Abertawe wedi nodi Walter Road a Sketty Road (A4118) fel llwybr strategol allweddol i mewn i ganol y ddinas ac allan ohoni ac mae'n gobeithio y gellir gwella'r ffordd sy'n rhedeg trwy ganol Uplands a Sgeti, er mwyn annog rhagor o bobl i feicio a cherdded.
Cynhaliwyd cyfres o sesiynau galw heibio'n ddiweddar, fel y gall bobl leol fynegi eu barn ar y cynigion - sy'n cynnwys creu llwybrau beicio unigol ynghyd â llwybrau troed gwell i gerddwyr a chyfleusterau croesi gwell.
Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllid gan raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru'n flaenorol er mwyn edrych ar ddyluniad a dichonoldeb creu llwybr.
Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Os ydym am weld cynnydd yn nifer y bobl sy'n beicio a cherdded, yn arbennig i'r rheini sydd am gymudo i ganol y ddinas, rydym am sicrhau bod gennym isadeiledd da a diogel er mwyn diwallu anghenion pawb.
"Mae preswylwyr a busnesau yn yr ardal wedi bod yn siarad â ni am y cynlluniau ac rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosib cyn i ni gytuno ar gynllun."
Unwaith caiff cynllun ei gymeradwyo, bydd yn cyngor yn ceisio sicrhau cyllid er mwyn datblygu'r llwybr.
Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Ein gobaith yw y gallwn sicrhau'r cyllid i adeiladu'r llwybr ac yn y dyfodol edrych ar ddatblygu cysylltiadau cerdded a beicio ychwanegol rhwng Walter Road a chymunedau gerllaw a chynyddu'r cyfleoedd trwy'r ddinas ar gyfer trafnidiaeth sy'n fwy cynaliadwy."
Gall y cyhoedd weld y cynlluniau teithio llesol presennol yn Abertawe, gan gynnwys y cynigion ar gyfer Walter Road/Sketty Road, yn ogystal â chymryd rhan mewn arolwg byr am eu harferion teithio ar hyd y ffordd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/cynlluniauteithiollesol