Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas i ddistewi ar gyfer digwyddiadau Sul y Cofio

Bydd ein dinas yn cynnal dwy funud o ddistawrwydd ar 14 Tachwedd wrth i'r genedl gofio'r aberthau a wnaed gan y lluoedd arfog mewn gwrthdaro ledled y byd.

poppies 2021

Bydd prif Senotaff Abertawe ar lan y môr, a llawer o fusnesau, cartrefi a chofebion eraill hefyd yn distewi ar gyfer y digwyddiad coffa blynyddol ar Sul y Cofio.

Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Mary Jones, yn Eglwys yr Holl Saint, yng Ngerddi Southend, y Mwmbwls, ar gyfer y digwyddiadau am 11am. Bydd y Dirprwy Arglwydd Faer a'r Cynghorydd Mike Day yn cynrychioli pobl Abertawe wrth Senotaff Abertawe ar gyfer y digwyddiad. 

Bydd yr Arglwydd Faer hefyd yn mynd i'r Gwasanaeth Coffa blynyddol am 2pm yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas.

Meddai'r Cyng. Jones, "Mae dwy funud o fyfyrio tawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a frwydrodd dros eu gwlad i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n parhau i wneud hynny.

"Mae'r ddwy funud o ddistawrwydd, y bydd Abertawe a gweddill y DU yn ei nodi ar yr un pryd, hefyd yn atgofiad teimladwy o dreftadaeth a rennir o aberth ac ymdrech."

Hefyd, bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wendy Lewis, yn bresennol yn nigwyddiadau dydd Sul wrth y Senotaff ac yn Eglwys y Santes Fair.