Toglo gwelededd dewislen symudol

Helpwch y gwasanaeth cyfarpar cymunedol i helpu eraill

Gofynnir i bobl yn Abertawe a'u teuluoedd sydd wedi benthyca cyfarpar i helpu symudedd a byw dyddiol yn eu cartrefi ddychwelyd yr eitemau nad ydynt yn eu defnyddio mwyach.

Person using a walking frame

Person using a walking frame

Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu helpu gan y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol i barhau i fyw'n annibynnol.

Mae'r gwasanaeth a ariennir ar y cyd gan gynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn gweithredu o Abertawe ac yn darparu amrywiaeth o eitemau ar gyfer oedolion a phlant i helpu gyda byw dyddiol, o gyfarpar codi celfi, fframiau cerdded a theclynnau codi i welyau proffilio a matresi lleihau pwysau.

Mae staff ysbytai neu gymunedol yn cynnal asesiad ac yn archebu'r cyfarpar cywir ar gyfer anghenion pob unigolyn a darperir y rhain am ddim am gyhyd ag y mae eu hangen.

Mae'r cyngor hefyd yn darparu larymau cymunedol fel y gall pobl alw am help os bydd ei angen.

Atgoffir defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd y dylid dychwelyd yr eitem os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach fel y gall eraill ei defnyddio.

Meddai'r Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Abertawe, "Mae ein Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac mae hyn wedi bod yn bwysicach fyth yn y 18 mis diwethaf gyda chymaint o bwysau ar y GIG a gofal cymunedol.

"Rydym yn gwerthfawrogi bod y pandemig wedi bod yn anodd iawn i bawb ac rydym yn deall yn iawn fod eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach y byddai pobl fel arfer yn eu dychwelyd, ond nid ydynt wedi gallu gwneud hynny.

"Rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw hyn wedi bod yn flaenoriaeth i bobl y mae aelod o'r teulu wedi bod yn sâl neu'n anffodus wedi marw.

"Ond rydym nawr yn gofyn os oes gan deuluoedd eitemau nad oes eu hangen mwyach eu bod yn cysylltu â'r gwasanaeth i drefnu i'w dychwelyd gan y bydd gwneud hyn yn ein helpu i gefnogi pobl eraill hefyd."

Ffoniwch y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol ar 01792 512240 neu e-bostiwch jes@abertawe.gov.uk