Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i chi ddweud eich dweud am Hawliau Dynol yn y ddinas

Gofynnir i breswylwyr rannu eu meddyliau am Hawliau Dynol a beth ddylai fod yn flaenoriaeth wrth i Abertawe weithio i fod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

Swansea Bay

Swansea Bay

Mae Cyngor Abertawe a'i bartneriaid yn gweithio i ennill statws Dinas Hawliau Dynol a bydd gwaith helaeth yn cael ei wneud gan fod angen cefnogaeth gan drawstoriad eang o fusnesau, grwpiau cymunedol, elusennau a phreswylwyr.

Lansiwyd arolwg yr wythnos hon i helpu'r partneriaid i ddeall yr hyn y mae pobl eisoes yn ei wybod am Hawliau Dynol a beth ddylai fod yn flaenoriaethau yn Abertawe.

Mae'r arolwg bellach ar gael ar-lein yn www.swansea.gov.uk/humanrightssurvey gyda chopïau caled ar gael ym mhob un o lyfrgelloedd Abertawe o ganol Tachwedd.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Louise Gibbard, "Mae mwy na 100 o Ddinasoedd Hawliau Dynol ledled y byd ac mae'r mudiad yn tyfu felly rydyn ni am i Abertawe arwain y ffordd yng Nghymru.

"Mae cyflawni statws Dinas Hawliau Dynol yn golygu croesawu gweledigaeth o gymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel wedi'i hadeiladu ar sylfeini hawliau dynol cyffredinol.

"Byddwn yn annog yr holl breswylwyr i rannu eu meddyliau fel y gallwn ddeall blaenoriaethau Abertawe wrth i ni gychwyn ar y daith hon. Gallai hyn fod yn ddiogelwch cymunedol, mynediad at addysg dda a gofal iechyd neu ffordd o ddweud eich dweud mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi. Yna byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i feddwl sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion hyn ar lefel leol. "

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae gwaith pwysig eisoes wedi digwydd yn Abertawe, rydym wedi llwyddo i weithredu Rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF yn y DU ac rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y ffordd yr ydym yn gosod ein polisïau.

"Rydym yn Ddinas Sefydliad Iechyd y Byd ac yn ddiweddar rydym wedi llofnodi Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Ystyriol o Oed. Rydym yn Ddinas Noddfa ac rydym wedi cael ein canmol am ymuno â'r Siarter Cymorth i Ddioddefwyr a'i gweithredu.

"Ond mae cymaint mwy i'w wneud ac mae angen barn a syniadau pobl ledled Abertawe arnom wrth i ni weithio gyda'n partneriaid i gyflawni ein nod o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol."   

Close Dewis iaith