Toglo gwelededd dewislen symudol

Llochesi bysus gwyrdd newydd yn Abertawe yn helpu i wella ansawdd aer

Bydd llochesi bysus sy'n llesol i'r amgylchedd yn cael eu gosod am y tro cyntaf yn Abertawe ar hyd prif lwybrau cludiant cyhoeddus yn y ddinas.

free bus survey

Mae Cyngor Abertawe wrthi'n disodli mwy na 100 o hen lochesi bysus ar draws y ddinas, y gosodwyd rhai ohonynt 30 o flynyddoedd yn ôl. Darperir y llochesi newydd gan Bus Shelters Ltd.

Bydd rhan o'r gwaith uwchraddio ar draws y ddinas yn cynnwys 10 lloches fysus newydd â 'thoeon gwyrdd' gyda phlanhigion naturiol arnynt sy'n gallu helpu i gael gwared ar ronynnau llwch a chyfrannu at well ansawdd aer.

Caiff y llochesi bysus gwyrdd eu gosod ar hyd ymyl y ffordd yn Mumbles Road, Oystermouth Road, Quay Parade, Walter Road a St Helen's Road.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae ein stoc bresennol o lochesi bysus wedi bod yno ers sawl degawd ac mae angen eu huwchraddio.

"Rydym yn trefnu bod dros 100 o lochesi newydd yn cael eu gosod yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

"Rydym hefyd wedi penderfynu cyflwyno nifer o lochesi bysus sy'n llesol i'r amgylchedd ar hyd rhai o'n llwybrau bysus prysur yn y ddinas. Er eu bod efallai'n ymddangos yn bethau newydd i rai - byddant yn sicr yn helpu yn ein gwaith ehangach i wella ansawdd air a'r gobaith yw y byddant hefyd yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd isadeiledd gwyrdd pan fydd y cyhoedd yn eu gweld.

"Bydd y llochesi bysus gwyrdd newydd hefyd yn ategu datblygiad ein Parc Arfordirol Bae Copr lle'r ydym yn cyflwyno man gwyrdd i'r cyhoedd ei fwynhau."

Bydd cam cychwynnol y rhaglen uwchraddio hon yn cynnwys cael gwared ar y llochesi bysus presennol. Caiff llochesi newydd eu gosod yn fuan wedi hynny.

Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Efallai bydd teithwyr bysus heb eu lloches fysus arferol am gyfnod byr yn ystod yr amser rhwng tynnu'r hen loches a gosod yr un newydd. Rydym yn bwriadu cadw'r cyfnod amser hwn mor fyr â phosib fel nad oes gormod o darfu ar deithwyr."