Llwybr halio hanesyddol y gamlas yn cael bywyd newydd yn Abertawe
Mae bron un cilometr a hanner o lwybr halio hanesyddol y gamlas wedi cael bywyd newydd fel llwybr cerdded a beicio newydd.
Gosodwyd arwyneb tarmac newydd hygyrch dau fetr o led ar lwybr yng nghymuned Clydach, Abertawe, i greu llwybr defnydd a rennir newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae'r llwybr yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol, a elwir yn RhBC43.
Mae Cyngor Abertawe wedi cwblhau'r gwaith o uwchraddio'r llwybr yn dilyn trafodaethau gyda Glandŵr Cymru ac ar ôl derbyn cyllid trwy gynllun trafnidiaeth gynaliadwy Llywodraeth Cymru - Teithio Llesol.
Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae ein nod o ledaenu'r llwybr presennol ar hyd y gamlas a darparu arwyneb gwell i gerddwyr a beicwyr bellach wedi'i gwblhau ac mae'n welliant sylweddol ar gyfer nifer o breswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio'r llwybr.
"Gweithiom gyda Glandŵr Cymru i wneud y llwybr y hwn yn fwy diogel ac yn llwybr cerdded a beicio mwy poblogaidd fyth. Mae'r gwelliannau a gwblhawyd bellach yn cysylltu â gwaith tebyg a gwblhawyd gan yr awdurdod lleol cyfagos ar hyd eu rhan hwy, gan hybu buddion rhanbarthol rhwng Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot."
Cafodd y buddsoddiad gwerth chwarter miliwn o bunnoedd yng Nghlydach ei gynnwys mewn rhestr ehangach o gynlluniau ar ôl i Abertawe dderbyn dros £4 miliwn o gyllid i greu llwybrau cerdded a beicio yn y ddinas yn ystod 2021/22.
Bydd cyllid pellach (£245,000) hefyd yn helpu i greu cyswllt 1.4km newydd rhwng cymunedau Clydach a Chraig-cefn-parc.
Mae llwybrau eraill sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yn cynnwys llwybr defnydd a rennir 900 metr o hyd ar hyd Clasemont Road yn Nhreforys. Mae llwybr newydd yn Townhill - a adwaenir fel The Ravine, hefyd yn agos at ei gwblhau ynghyd â marciau igam ogam ar hyd ochr y mynydd am 1.4km.
Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar lwybrau pellach yn Nhreforys ac ar hyd Jersey Road ym Môn-y-maen - y maent i gyd yn darparu cysylltiadau hanfodol i rwydweithiau cerdded a beicio presennol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas, "Rydym yn bwrw ymlaen â chreu llwybrau cerdded a beicio mwy hygyrch ar draws y ddinas, gan sicrhau bod y llwybrau hyn yn gallu darparu dewis amgen i'w groesawu yn lle ddefnyddio'r car i deithio o le i le, yn enwedig ar deithiau byr lle gall cerdded a beicio fod yn fuddiol.
"Mae ehangu ein rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio fel bod rhagor o gymunedau wedi'u cysylltu yn nod allweddol i annog rhagor o breswylwyr i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy."