Siop yn Abertawe'n derbyn dirwy am nwyddau sydd wedi mynd heibio'r dyddiad 'defnyddio erbyn'.
Mae siop fwyd yng nghanol dinas Abertawe sy'n arbenigo mewn gwerthu bwyd rhyngwladol wedi derbyn dirwy o filoedd o bunnoedd am werthu bwyd sydd wedi mynd heibio'r dyddiad 'defnyddio erbyn'.
Archwiliwyd Swansea Food Centre ar y Stryd Fawr gan Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe ym mis Tachwedd 2020 a daethpwyd o hyd i 50 eitem o fwyd yn adran y siop lle mae'r prisiau wedi'u lleihau, ac roedd y dyddiad 'defnyddio erbyn' wedi mynd heibio ar bob un ohonynt. Daethpwyd o hyd i un eitem lle'r oedd y dyddiad 'defnyddio erbyn' wedi mynd heibio ers 41 diwrnod.
Ar ôl archwilio'r eitemau bwyd yn agos, darganfuwyd bod sticeri lleihau pris wedi'u gosod dros y dyddiad 'defnyddio erbyn' ar y deunydd pacio.
Canfu ymweliadau pellach â'r siop gan swyddogion ym mis Ionawr a Medi 2021 fod eitemau pellach hefyd wedi mynd heibio'r dyddiad 'defnyddio erbyn' ac fe'u darganfuwyd ar ôl i berchennog y busnes gael ei gyfweld yn ffurfiol gan swyddogion safonau masnach ym mis Ebrill 2021.
Plediodd Mr Yalcin Ozmus, perchennog Swansea Food Centre (Kismetim Ltd) yn euog i gyfres o droseddau a oedd yn ymwneud â Deddf Diogelwch Bwyd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth 25 Ionawr.
Derbyniodd ddirwy o £18,000 a gorchmynnwyd iddo dalu £2,444 yn ogystal â gordal dioddefwr o £190.
Croesawodd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, y camau gweithredu gan Safonau Masnach.
Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae gan fusnesau bwyd yn ein dinas gyfrifoldeb i sicrhau bod y nwyddau maent yn eu gwerthu'n ddiogel i gwsmeriaid eu bwyta. Nid yw'n dderbyniol i fusnes barhau i werthu bwyd sydd wedi mynd heibio'r dyddiad 'defnyddio erbyn', yn enwedig pan ymwelwyd â'r busnes dro ar ôl tro a darparwyd cyngor ar arferion gwerthu bwyd.
"Rydym yn darparu digon o gyngor a chymorth i fusnesau bwyd yn rheolaidd, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n cynnal busnes mewn modd diogel nad yw'n rhoi cwsmeriaid mewn perygl o wenwyn bwyd difrifol.
"Rwy'n hyderus bod y cam gweithredu diweddaraf hwn yn anfon neges i fusnesau ledled y ddinas fod angen iddynt roi'r mesurau cywir ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd.