Toglo gwelededd dewislen symudol

Annog gofalwyr di-dâl i hawlio grant o £500

Anogir miloedd o ofalwyr di-dâl yn Abertawe i ystyried cyflwyno cais am grant untro o £500 gan Lywodraeth Cymru i'w helpu gyda phwysau ariannol yn dilyn y pandemig.

Swansea Bay

Mae gofalwyr di-dâl a dderbyniodd Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 yn gymwys i dderbyn y taliad.

Fodd bynnag, ni fydd pobl yn gymwys os ydynt yn derbyn Premiwm Gofalwr drwy fudd-dal prawf modd fel Credyd Cynhwysol.

Er mai Cyngor Abertawe sy'n gweinyddu'r grant, mae'r meini prawf cymhwysedd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys i dderbyn y taliad gyflwyno cais am y grant ar-lein ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/grantiofalwyrdidal

Agorodd y dudalen ar gyfer cyflwyno ceisiadau, sy'n cynnwys gwybodaeth am bwy sy'n gymwys ai peidio, ar 16 Mai. Rhaid cwblhau cofrestriadau ar gyfer y grant erbyn 5pm ar 15 Gorffennaf.

Meddai Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Abertawe, "Rydym eisoes wedi anfon llythyrau at tua 1,300 o ofalwyr y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais er mwyn eu hannog i ystyried cofrestru ar gyfer y grant.

"Ond mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod oddeutu 4,000 o ofalwyr yn Abertawe y gallent fod yn gymwys ar gyfer y grant, felly hoffem annog pobl i edrych ar y wefan i weld a allant gofrestru am daliad.

"Gallwn ddarparu cefnogaeth i unrhyw un na all lenwi'r ffurflen dros ei hun ac nad oes ganddo unrhyw un i'w helpu. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau a sefydliadau cymorth lleol yn ymwybodol y gallant lenwi'r ffurflen ar ran y bobl maent yn eu cefnogi."

Rhaid i unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys ar gyfer grant gofrestru amdano. Yna bydd yn cael ei asesu a gwneir taliad os yw'n gymwys ar ei gyfer.

Gweler rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a sut i gyflwyno cais ar wefan y cyngor yma: www.abertawe.gov.uk/grantiofalwyrdidal

 

 

 

Close Dewis iaith