Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwmni arobryn i arwain gwaith adfywio gwerth £750m yn Abertawe

Mae cwmni arobryn sy'n gyfrifol am gynigion pwysig gwerth £750m i drawsnewid sawl safle allweddol yng nghanol y ddinas ac ar y glannau wedi'i benodi'n bartner adfywio tymor hir Cyngor Abertawe.

Urban Splash partnership

Urban Splash partnership

Mae Urban Splash wedi llofnodi cytundeb partneriaeth 20 mlynedd gyda'r cyngor sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer ailddatblygu safleoedd sy'n cynnwys Gogledd Abertawe Ganolog a hen Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Mae cynigion cynnar ar gyfer safle 5.5 erw Gogledd Abertawe Ganolog yn cynnwys swyddfeydd, gweithleoedd a rennir, fflatiau ac ardal newydd lle gall busnesau bach creadigol wneud a gwerthu eu cynnyrch.

Cynnig arall yw'r posibilrwydd o ailddatblygu safle 2.3 erw'r Ganolfan Ddinesig i greu ardal glan-môr ddinesig newydd. Gallai cartrefi a mannau hamdden a lletygarwch hefyd gael eu datblygu yno, ynghyd â digonedd o wyrddni, mannau cyhoeddus a rhodfa newydd i'r traeth.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wedi cyflwyno Ffordd y Brenin newydd, Wind Street ar ei newydd wedd, Bae Copr ac Arena Abertawe dros y pum mlynedd diwethaf. Mae Gerddi'r Castell, Theatr y Palace, Neuadd Albert a nifer o gynlluniau adfywio allweddol eraill yn mynd rhagddynt, ond nawr mae angen i ni symud ymlaen i gam nesaf ail-lunio'n dinas hardd. Dyna pam y byddwn yn ailddatblygu'r safleoedd allweddol hyn ar draws Abertawe i greu rhagor o gyfleoedd busnes, hamdden a byw newydd.

"Rwy'n falch bod gennym bartner rhagorol sef Urban Splash a fydd yn ein helpu i wireddu'r cyfleoedd hyn.Mae eu brwdfrydedd, eu hymroddiad a'u gweledigaeth i helpu'r cyngor i ddarparu'r math o ganol dinas a glannau modern, ffyniannus y mae pobl Abertawe yn eu haeddu eisoes wedi gwneud argraff arnom.

"Mae'r gwaith arfaethedig i adfywio safleoedd, gan gynnwys yr ardal o gwmpas Eglwys y Santes Fair y cyfeirir ati fel Gogledd Abertawe Ganolog a safle penigamp y Ganolfan Ddinesig, yn mynd i fod yn bethau go arbennig ac unigryw, gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud o ran Bae Copr a'r Arena.

"Yn ogystal â chreu lleoedd hamdden, byw, manwerthu a swyddfeydd newydd o safon, bydd y gwaith arfaethedig i drawsnewidiad y safleoedd allweddol hyn yn cynhyrchu miloedd o swyddi â thâl da i bobl leol.

"Mae Urban Splash yn gwmni sydd wedi cyflawni rhai o'r cynlluniau mwyaf creadigol ac eiconig yn y DU, felly rydym yn falch iawn ein bod wedi llofnodi'r cytundeb partneriaeth £750m hwn a fydd yn mynd â'n dinas i'r lefel nesaf."

Sefydlwyd Urban Splash ym 1993 ac ers hynny mae wedi datblygu dros 60 o brosiectau adfywio ledled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys prosiect Royal William Yard yn Plymouth, lle trawsnewidiodd y cwmni gasgliad o adeiladau rhestredig Gradd I a II ger y glannau'n fflatiau, yn weithleoedd, yn orielau, yn fariau ac yn fwytai. Mae Urban Splash wedi ennill mwy na 450 o wobrau am ei waith.

Meddai Jonathan Falkingham MBE, Cyd-sefydlydd yn Urban Splash a chyn-breswylydd yn Abertawe a aeth i'r ysgol yn y ddinas, "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu'n partneriaeth gyda Chyngor Abertawe, gan gymhwyso gwerth bron tri degawd o brofiad yn y maes adfywio i greu amgylchedd o'r radd flaenaf sy'n uno adeileddau hanesyddol y ddinas â phensaernïaeth newydd, gynaliadwy, gyda'r amcan o sefydlu Abertawe yn un o ddinasoedd mwyaf iach ac anheddol y DU.

"Nid adeiladau'n unig sy'n bwysig wrth greu'r mannau gorau - mae'n ymwneud â phobl leol hefyd. Mae Urban Splash yn gydweithwyr awyddus, a gallwn roi bywyd newydd i leoedd newydd drwy weithio'n agos gyda'r cymunedau, y busnesau lleol, yr entrepreuneuriaid hynny a'r gymuned greadigol. Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi dangos ei uchelgais ar gyfer y ddinas ac rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â nhw a'r gymuned ehangach ar gam nesaf taith Abertawe."

Mae safleoedd eraill yn Abertawe i'w hadfywio'n cynnwys safle 7.5 erw yn St Thomas, y mae'r cynigion cynnar yn cynnwys cartrefi i deuluoedd, fflatiau, mannau cyhoeddus newydd a llwybr terasog ar lan yr afon sy'n darparu mynediad uniongyrchol i'r afon am y tro cyntaf mewn dros 150 o flynyddoedd.

Trefnir y bydd llawer o gyfleoedd ar gael i bobl eraill roi adborth ar yr holl gynigion cyn gynted ag y cânt eu datblygu'n fanylach. Bydd cynigion pellach yn y dyfodol yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu safleoedd allweddol eraill ar draws Abertawe.

Close Dewis iaith