Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cronfa Cymorth i Dwristiaeth 2023-24

Yn cefnogi gweithredwyr llety bach mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig yn Abertawe

Levelling up and funded by UK Gov logos - WEL.

Beth yw diben y Gronfa Cymorth i Dwristiaeth?

Mae Cronfa Cymorth i Dwristiaeth 2023-24 yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn darparu hyd at £10,000 i gefnogi busnesau llety bach yn ardaloedd gwledig a lled-wledig Abertawe.Nod cyffredinol y gronfa yw gwella ansawdd y cynnig, boed hynny drwy gyflawni gradd Croeso Cymru / AA uwch neu wella profiad yr ymwelydd.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'r gronfa hon ar gael i fusnesau llety bach (hyd at 25 o weithwyr) yn ardaloedd gwledig neu led-wledig Dinas a Sir Abertawe. Bydd ardal y Mwmbwls hefyd yn cael ei hystyried ar gyfer ceisiadau.

Dim ond un cais fesul busnes. Nid yw derbynwyr arian TSF1 / TSF2 yn gymwys. 

Ar gyfer beth y defnyddir y gronfa?

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd wedi'u hanelu'n glir at wella profiad ymwelwyr drwy uwchraddio'r llety a gynigir neu sicrhau gradd uwch.

Mae enghreifftiau o'r hyn y gellir defnyddio'r gronfa ar ei gyfer yn cynnwys:

  • Ychwanegu mwy o le - e.e. ystafell wely ychwanegol, cyfleusterau en-suite
  • Cyfleusterau cerdded/beicio - e.e. ystafell sychu, man golchi beiciau
  • Gwelliannau i hygyrchedd - e.e. gwell mynediad, ramp, cyfleuster Changing Places
  • Gwaith adnewyddu sylweddol - a fydd yn arwain at raddio uwch

Ar gyfer beth na ellir defnyddio'r gronfa?

Ni allwch wneud hawliad am:

  • Waith sydd eisoes wedi digwydd neu sydd ar y gweill
  • Unrhyw wariant yr aethpwyd iddo cyn cytuno ar gyllid, e.e. prynu offer, deunyddiau, unrhyw flaendal a dalwyd, etc.
  • Gwaith sy'n ymwneud â rhwymedigaethau statudol
  • Costau cynnal a chadw neu adnewyddu arferol
  • Costau refeniw (gwefan, marchnata/hysbysebu, staff, ymgynghoriaeth, etc.)

Amserlen a chyflwyno

Mae ceisiadau ar gyfer y gronfa hon bellach ar gau.

Close Dewis iaith