Toglo gwelededd dewislen symudol

Y fasnach dwristiaeth

Tîm Twristiaeth Cyngor Abertawe yw darparwyr swyddogol gwybodaeth i ymwelwyr a nhw sy'n gyfrifol am farchnata Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr i weddill y DU.

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd marchnata drwy gydol y flwyddyn i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cyrchfan ac awn ati i annog ymwelwyr â Bae Abertawe drwy ein gwefan www.croesobaeabertawe.com, cyfryngau cymdeithasol ac ymweliadau cysylltiadau cyhoeddus proffil uchel. 

Rydym yn cefnogi datblygiad cyrchfannau cynaliadwy yn barhaus drwy Gynllun Rheoli Cyrchfannau'r cyngor, cefnogi busnesau, cyllideb, ymchwil, digwyddiadau masnach, gweithio mewn partneriaethau a rhwydwaith lleol o Bwyntiau Gwybodaeth i Ymwelwyr (VIP). 

Rydym yn gweithio'n agos gyda Croeso Cymru a Twristiaeth Bae Abertawe, y gymdeithas fasnach dwristiaeth leol. Mae gan ddarparwyr twristiaeth gyfle i fod yn bartneriaid Croeso Bae Abertawe a hyrwyddo'u busnesau fel rhan o'n hymgyrchoedd. 

Ymchwil i dwristiaeth ac ystadegau amdano

Dyma rai ffeithiau a ffigurau cyflym am werth twristiaeth ym Mae Abertawe:

Pwy yw Pwy ym Myd Twristiaeth?

Mwy o wybodaeth am bwy sy'n gwneud beth yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a'r DU.

Cynllun Gweithredu Adferiad Twristiaeth 2021-22

Cyhoeddodd Tîm Twristiaeth Cyngor Abertawe ei gynllun adfer i aelodau'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch lleol yn ddiweddar.

Cynnal busnes twristiaeth - awgrymiadau da

Gwybodaeth am sefydlu busnes twristiaeth neu weithredu busnes twristiaeth sydd eisoes yn bodoli.
Close Dewis iaith