Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau Abertawe'n elwa o gefnogaeth arbenigwyr profiad cwsmeriaid

Mae dwsinau o fusnesau Abertawe wedi elwa o gefnogaeth arbenigol i helpu i ddenu rhagor o gwsmeriaid.

Plantasia staff

Plantasia staff

Fel rhan o gynllun Meddyg Siop a gynhelir gan Gyngor Abertawe, mae arbenigwyr profiad cwsmeriaid wedi helpu dros 60 o fusnesau yng nghanol y ddinas, y Mwmbwls ac Uplands i nodi'r prif broblemau maent yn eu hwynebu a mynd i'r afael â hwy.

Cyflwynwyd y cynllun, a ariannwyd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan arbenigwyr profiad cwsmeriaid o gwmni o'r enw Insight6 a rhoddwyd cyngor i fusnesau ar sut orau i wneud amserau ymweld eu cwsmeriaid yn hwy a'u hannog i ymweld eto yn y dyfodol.

Meddai Mel Evans, cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid Insight6, "Rydym wedi ymweld â sawl busnes yn ardal Abertawe fel 'siopwyr dirgel' gan feincnodi pob un yn erbyn meini prawf gosod.  Roedd y rhain yn cynnwys safonau cyflwyno y tu mewn a'r tu allan i'r eiddo a'r gwasanaeth hollbwysig a ddarparwyd i gwsmeriaid wrth iddynt ymwneud â'r busnes.

"Mae'n galonogol bod Cyngor Abertawe'n parhau i gefnogi busnesau lleol ledled y ddinas. Roedd yn brosiect arbennig i fod yn rhan ohono ac mae'n hawdd gweld mor frwdfrydig y mae rhai busnesau ynghylch darparu gwasanaeth gwych. Da iawn i'r holl fusnesau hynny a gymerodd ran."

Mae'r busnesau a gafodd marciau llawn yn cynnwys Plantasia ym Mharc Tawe, Gifts and Co ym Marchnad Abertawe, a'r Mortgage Advice Bureau ar Ffordd y Brenin. Sgoriodd Valley Mill yn Llansamlet a The Principality ar Ffordd y Brenin yn dda iawn hefyd.

Yn gyffredinol, derbyniodd fasnachwyr ym Marchnad Abertawe sgôr gyfartalog o 95%.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Drwy weithio gyda Mel ac Insight6 rydym wedi gallu darparu adborth gwirioneddol ddefnyddiol i 60 o fusnesau sy'n gallu defnyddio hyn i ddatblygu'r cynnyrch a'r gwasanaeth maent yn eu cynnig, a fydd, gobeithio, yn denu mwy o ymwelwyr i'n dinas.

"Ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad y mae ein busnesau'n ei wneud i economi Abertawe. Y rhain yw enaid ein heconomi felly byddwn yn parhau i fod wrth law i ddarparu unrhyw gefnogaeth y mae ei hangen arnynt.

"Mae hyn bellach yn bwysicach nag erioed wrth i'r DU ddod allan o'r pandemig."

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy'n werth £90 miliwn yn cynnwys mesurau i gynyddu nifer yr ymwelwyr drwy sicrhau bod y sector cyhoeddus yn lleoli gwasanaethau mewn lleoliadau yn nghanol trefi, mynd i'r afael ag adeiladau a thir gwag er mwyn helpu i sicrhau y cânt eu defnyddio eto a gwneud canolau trefi'n wyrddach.

Close Dewis iaith