Pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon ac yn taflu sbwriel yn cael eu dirwyo yn Abertawe
Mae pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon ac yn taflu sbwriel a busnesau sy'n methu rheoli'u gwastraff masnachol wedi derbyn hysbysiadau o gosb benodol yn Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe yn parhau i gau'n dynn ar bobl sy'n cael eu dal yn taflu sbwriel a thipio'n anghyfreithlon.
Ers mis Ebrill eleni, mae 12 hysbysiad o gosb benodol wedi cael eu rhoi i bobl sy'n taflu sbwriel ar y stryd. Y gost i'r rheini sy'n cael eu dal yw dirwy o £100 sy'n lleihau i £75 os caiff ei thalu'n gynnar.
Mae tri hysbysiad o gosb benodol arall wedi'u rhoi i bobl a gafodd eu dal yn tipio symiau sylweddol o wastraff yn anghyfreithlon, a gostiodd £400 yr un iddynt (wedi'i leihau i £250 am dalu'n gynnar).
Mae'r cyngor hefyd wedi bod yn targedu busnesau sy'n methu rheoli eu gwastraff masnachol yn iawn ac sy'n aml yn arwain at symiau mawr o wastraff mewn mannau cyhoeddus.
Mae wyth hysbysiad o gosb benodol wedi'u rhoi i'r busnesau hynny nad ydynt yn rheoli'u gwastraff yn iawn ac maent wedi gorfod talu £300 yr un (wedi'i leihau i £180 am daliad cynnar).
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dilyn yr hysbysiad o gosb benodol ddiweddaraf a roddwyd i fodurwr a gafodd ei ddal ar gamera'n taflu sbwriel o'i gar ac yna'n gyrru i ffwrdd.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae ein timau gorfodi gwastraff yn gweithio i gadw'n dinas yn lân ac yn ddi-sbwriel.
"Mae gennym bwerau i roi Hysbysiadau o Gosb Benodol i unigolion yn ogystal â busnesau os cânt eu dal yn gwneud rhywbeth sy'n arwain at sbwriel ar ein strydoedd.
"Mae llawer o'r bobl sy'n taflu sbwriel neu'n tipio'n anghyfreithlon yn credu na chânt eu dal neu ni chaiff unrhyw beth ei wneud amdano. Maen nhw'n anghywir a byddwn yn parhau i frwydro'n ôl yn erbyn y rheini nad ydynt yn dangos parch at ein dinas.
"Mae ein timau glanhau allan bob dydd yn glanhau strydoedd, parciau, traethau ac ardaloedd cyhoeddus, a'r cyfan rydym ni'n ei ofyn yw bod y rheini sy'n byw yn Abertawe'n gweithio gyda ni i gadw'n dinas yn lân."
Mae'r cyngor newydd lansio ymgyrch recriwtio fawr hefyd i roi hwb i'w dimau glanhau rheng flaen fel bod pob ward yn y ddinas yn gallu cael ei chadw'n ddi-sbwriel.
Mae dau ar bymtheg o swyddi glanhau strydoedd wedi'u hysbysebu fel rhan o ymgyrch i gau'n dynn ar daflu sbwriel, a bydd yn golygu y bydd cymunedau'n lanach nag erioed.
Mae'r ymgyrch recriwtio ddiweddaraf yn rhan o Dîm Gweithredol Glanhau Wardiau newydd, blaengar a fydd yn mynd i bob ward yn Abertawe, gan ddechrau'r mis hwn, i lanhau'n drylwyr ac ymgymryd â thasgau casglu sbwriel a deunydd a dipiwyd yn anghyfreithlon.
Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae cyflwyno'r Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau yn un o fwy na 60 o ymrwymiadau polisi yr addawom wneud cynnydd arnynt yn y 100 o ddiwrnodau cyntaf ers iddynt gael eu mabwysiadu gan y cyngor ym mis Gorffennaf.
"Mae strydoedd a chymunedau glanach yn un o flaenoriaethau pobl Abertawe ac rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan. Byddem yn annog y cyhoedd i wneud eu rhan hefyd drwy beidio â thaflu sbwriel yn y lle cyntaf a thrwy adrodd am broblemau lle maent yn eu gweld."