Y cyngor yn gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd
Bydd perchnogion cerbydau trydan yn cael y cyfle i wefru eu ceir wrth iddynt fod yn y siopau neu ar daith i'r traeth.
Mae pedwar ar bymtheg o bwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn 12 maes parcio sy'n eiddo i'r cyngor ac maen nhw bellach yn aros i gael eu cysylltu â'r prif gyflenwad yn ystod yr wythnosau i ddod.
Mae'r ychwanegiadau diweddaraf yn golygu bod 43 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan bellach mewn 25 o leoliadau ar draws y sir a weithredir gan y cyngor, gan gynnwys naw ym maes parcio Bae Copr newydd sydd o dan Arena Abertawe.
Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, y bydd y pwyntiau gwefru yn hwb go iawn i berchnogion ceir trydan presennol a'i nod yw annog rhagor o bobl i ystyried newid o gerbydau petrol neu ddiesel yn y dyfodol.
Meddai, "Dewiswyd y pwyntiau gwefru sydd newydd eu gosod yn dilyn trafodaethau gydag aelodau ward ac eraill ac maent wedi'u lleoli'n benodol er hwylustod i bobl sy'n ymweld am y dydd a phobl sy'n siopa mewn cymunedau lleol.
"Rydym yn nwylo'r cwmni cyflenwi o ran cysylltu'r pwyntiau gwefru â'r prif gyflenwad. Ond pan fydd hynny wedi'i wneud, bydd y pwyntiau gwefru'n rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i'n cymunedau."
Ychwanegodd, "Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fod yn gyngor carbon sero-net erbyn 2030 ac i'r ddinas gyfan gyrraedd y targed hwnnw erbyn 2050.
"Y pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yw'r cam diweddaraf i'r cyfeiriad cywir a'n bwriad yw cynyddu eu niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Ond megis dechrau yw hyn."
Mae Cyngor Abertawe hefyd yn arwain trwy esiampl ar gerbydau trydan, gyda'r nod o gwblhau ei newid o gerbydau petrol a diesel traddodiadol i gerbydau allyriadau isel iawn dros y blynyddoedd nesaf.
Mae gan y cyngor y cerbydlu mwyaf o gerbydau trydan yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod a'i nod yw ychwanegu 25 o gerbydau ychwanegol yn ystod y misoedd nesaf at y 60 y mae eisoes yn eu gweithredu.
Rhestr lawn o leoliadau'r 19 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd:
Porth Einon; Bae Caswell; Bae Langland; Bae Bracelet; Knab Rock; Blackpill; Maes parcio'r Llaethdy, y Mwmbwls; Maes Parcio Aml-lawr y Stryd Fawr (3); Y Rec (3); Northampton Lane (4); Maes Parcio'r Cwadrant; Y Strand