Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb dros dro yn cefnogi 130 o bobl i ddod o hyd i waith

Mae dros 130 o bobl wedi dod o hyd i gyflogaeth diolch i hwb cyflogaeth dros dro a agorodd yng nghanol y ddinas yn gynharach eleni.

Employment hub in Quadrant

Employment hub in Quadrant

Maent ymhlith dros 400 o bobl sydd wedi cael cymorth ers i Abertawe'n Gweithio symud i'r uned gyferbyn â HMV yn y Cwadrant, a oedd yn wag o'r blaen, 12 wythnos yn ôl.

Mae llawer o fusnesau a sefydliadau newydd a sefydledig hefyd wedi elwa o'r diwrnodau cyflogaeth a gynhaliwyd yno.

Mae'r rhain yn cynnwys y Ninja Warrior Adventure Park newydd ym Mharc Tawe, a recriwtiodd dros 50 o bobl ifanc cyn iddo agor ar ddechrau'r haf.

Gwasanaeth cyflogadwyedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe yw Abertawe'n Gweithio.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Les, Alyson Pugh, ei fod wedi chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl i ddod o hyd i gyflogaeth ers ail-lansio'r gwasanaeth bedair blynedd yn ôl.

Meddai, "Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i gefnogi ein holl breswylwyr i ddod o hyd i waith a hyfforddiant, a'u helpu i ddatblygu i'w llawn botensial.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am waith, sy'n ystyried hyfforddiant neu sy'n awyddus i ddod o hyd i swydd well i alw heibio i weld y tîm.

"Maen nhw'n gyfeillgar ac yn broffesiynol ac maent yn gwbl ymroddedig i weithio gyda phobl o bob oedran i'w cefnogi i gyflawni'u nodau."

Close Dewis iaith