Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyllid ar gael i gefnogi banciau bwyd

Gall elusennau a grwpiau cymunedol sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng i bobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Abertawe wneud cais eto i'r cyngor am gyllid i gefnogi'u gwaith.

Foodbank generic

Mae grantiau ar gael ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys prynu bwyd o safon a nwyddau hanfodol ychwanegol neu dalu treuliau gweithredu fel costau ychwanegol, treuliau gwirfoddolwyr ychwanegol neu gostau ychwanegol eraill o ganlyniad i gynnydd mewn galw.

Gall prosiectau tyfu a choginio cymunedol hefyd wneud cais am gyllid os mai mynd i'r afael â thlodi bwyd yw eu prif nod.

Hyd yn hyn eleni, mae Cyngor Abertawe wedi dyfarnu cyfanswm o £60,985 i 37 o sefydliadau o'r Grant Cymorth i Aelwydydd 2022/23 a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae £22,000 yn rhagor ar gael yn awr yn rownd dau i sefydliadau cymwys wneud cais amdano.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener, 30 Medi 2022 ac mae ymgeiswyr a wnaeth gais yn rownd un yn gymwys i wneud cais yn rownd dau.

I wneud cais ewch i www.abertawe.gov.uk/householdsupportfund.

Caiff pob cais ei asesu ar sail teilyngdod ond gall grwpiau drafod eu ceisiadau ymlaen llaw os ydynt am wneud hynny trwy e-bostio tacklingpoverty@abertawe.gov.u

Close Dewis iaith