Toglo gwelededd dewislen symudol

Côr Heneiddio'n Dda newydd eisoes yn taro'r nodyn iawn

Mae côr newydd a ffurfiwyd i annog pobl hŷn i adael y tŷ a chymdeithasu eisoes yn taro'r nodyn iawn.

Ageing Well Choir

Er mai dim ond eleni y lansiwyd y Côr Heneiddio'n Dda, mae eisoes yn denu mwy na 50 o gantorion i Arena Abertawe, lle mae'n cwrdd bob prynhawn dydd Mercher.

Fe'i sefydlwyd gan dîm Partneriaeth a Chyfranogaeth Cyngor Abertawe ac mae'n un o sawl gweithgaredd sy'n cael ei gyflwyno fel rhan o raglen i fynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig.

Gall pobl gofrestru i dderbyn cylchlythyr sy'n rhoi diweddariad wythnosol iddynt ar yr holl bethau sy'n digwydd drwy fynd i: https://www.abertawe.gov.uk/ebostheneiddiondda

Close Dewis iaith