Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i fwynhau awyr iach yn un o'n trysorau gwyrdd

Os nad ydych chi wedi ymweld ag un o drysorau gwyrdd Abertawe ym Mharc Gwledig Clun ers sbel, dyma'r amser i fynd.

clyne country park

Diolch i waith gan Gyngor Abertawe a gwirfoddolwyr lleol, mae'n haws nag erioed i deuluoedd sy'n chwilio am ddiwrnod mas yn y goedwig fynd i fwynhau'r parc 700 erw sy'n cynnig cysylltiad gwyrdd rhwng yr Olchfa a'r promenâd.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf adeiladwyd tair pont newydd ar draws afon Clun sy'n rhedeg i lawr y dyffryn, gosodwyd cerrig sarn sy'n hawdd eu croesi yn lle un arall ac mae gwaith draenio ychwanegol wedi helpu i wneud llwybrau eraill yn haws i'w defnyddio.

Ar ben hynny, crëwyd llwybr troed newydd i wella cysylltiadau rhwng ardaloedd gwahanol o'r parc yn ogystal â gosod nifer o arwyddion i'w wneud yn haws nag erioed i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod yr holl waith wedi'i wneud gyda mesurau i warchod a gwella bywyd gwyllt yn yr ardal, gan ganiatáu i fwy o bobl fod yn agos at natur wrth fwynhau diwrnod mas. 

Meddai, "Yn ystod cyfyngiadau symud cyntaf y pandemig yn benodol, gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r parc fel ffordd o fwynhau gadael y tŷ a chael awyr iach. Roedd nifer yr ymwelwyr â'r ardal wedi dyblu fwy neu lai ac rydym am annog mwy o deuluoedd i fwynhau'r trysor hwn yn ein casgliad o barciau."

Dyffryn Clun yw'r unig barc gwledig yn Abertawe a gellir ei gyrraedd yn hawdd o feysydd parcio o amgylch ei ymylon mewn lleoedd fel Mumbles Road yn y de a' Chilâ a Chilâ Uchaf yn y gogledd.

Mae gan yr ardal hanes cyfoethog ac amrywiol, sy'n amrywio o gloddio am lo i greu briciau. Mae peth o'r hanes hwnnw'n bodoli hyd heddiw ar ffurf adfeilion, gan fod y dirwedd bellach wedi ildio i goetir ac amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar fel siglennod a chnocellod y coed, a gwiwerod ac ystlumod.

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Os nad ydych chi wedi bod am sbel neu os nad ydych chi wedi bod o'r blaen, dyma'r amser perffaith i weld y parc yn y gaeaf. Mae'r gwelliannau a gwblhawyd dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud y parc yn fwy hygyrch wrth hefyd feithrin cynefinoedd bywyd gwyllt lleol yn ofalus.

"Dros y tair blynedd diwethaf mae ein Tîm Mynediad i Gefn Gwlad wedi defnyddio Grantiau Gwella Mynediad gan Lywodraeth Cymru i gwblhau gwelliannau i'r llwybrau sy'n annog pobl i archwilio'r parc cyfan.

"Mae'r gwirfoddolwyr o Brosiect Cymunedol Dyffryn Clun wedi bod yn elfen bwysig iawn o'r gwelliannau i'r llwybr, wrth helpu i wneud y gwaith a chynghori ar ble y mae angen gwneud y gwaith a pha waith y mae angen ei wneud."

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Dyffryn Clun, ewch i, https://www.abertawe.gov.uk/parcgwledigdyffrynclun

Os hoffech ymuno â'r gwirfoddolwyr ym Mhrosiect Cymunedol Dyffryn Clun, cymerwch gip yma: https://clynevalleycommunityproject.uk/

 

 

If you'd like to join the volunteers of the Clyne Valley Community Project, take a look here: https://clynevalleycommunityproject.uk/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023