Tîm newydd yn barod i ddechrau mynd i'r afael â llwydni a lleithder yng nghartrefi'r cyngor
Mae tîm a fydd yn delio'n benodol â phroblemau llwydni a lleithder yng nghartrefi'r cyngor wedi'i lansio yn Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe wedi creu tîm arbenigol a fydd yn gweithredu'n gyflym pan fydd preswylwyr yn adrodd am lwydni a lleithder. Ysgogwyd hyn gan gynnydd mewn adroddiadau yn dilyn sylw yn y cyfryngau am broblemau llwydni'n genedlaethol.
Mae timau cynnal a chadw tai y cyngor wedi ymdrin â phroblemau llwydni a lleithder ac adroddiadau am lwydni yng nghartrefi'r cyngor o'r blaen fel rhan o'u cyfrifoldebau beunyddiol, sydd hefyd yn cynnwys atgyweiriadau tai ond teimlwyd bod angen creu tîm dynodedig.
Darperir cyngor hefyd i denantiaid y cyngor i'w helpu i ymdrin ag unrhyw anwedd sydd wedi cronni yn eu cartref, sy'n brif achos llwydni mewn amgylchedd caeëdig.
Mae timau cynnal a chadw yn y cyngor a chontractwyr arbenigol wedi bod yn gweithio am nifer o flynyddoedd i sicrhau bod holl stoc tai'r cyngor yn bodloni safonau cenedlaethol y llywodraeth, sy'n fwy adnabyddus fel Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Mae SATC bellach wedi'i fodloni ac mae mwy na 13,000 o dai cyngor wedi'u huwchraddio gyda cheginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a thoeau newydd yn ogystal â gwelliannau i wneud cartrefi'n gynhesach ac yn llai agored i leithder.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi miliynau i uwchraddio tai cyngor fel eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
"Rydym wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd sy'n byw yn ein dinas, gan ddarparu cartrefi diogel, cynnes i bobl fyw ynddynt.
"Mae ein Tîm Cynnal a Chadw Tai eisoes yn ymateb i alwadau am broblemau lleithder a llwydni ac yn gwneud y gwaith lle mae ei angen.
"Mae adroddiadau am lwydni wedi cynyddu yn y misoedd diweddar a theimlom ei fod yn angenrheidiol creu tîm pwrpasol a fydd yn gallu delio â phryderon tenantiaid mor gyflym â phosib. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf am lwydni a'r peryglon iechyd ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod tenantiaid yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn cael ymateb cyflym."
Mae gwedudalen ddynodedig hefyd wedi'i gosod ar brif wefan y cyngor sy'n darparu cyngor ac awgrymiadau i ymdrin â llwydni https://www.abertawe.gov.uk/problemauanweddtenantiaid