Toglo gwelededd dewislen symudol

Copper y ci yn helpu i ddod o hyd i gynnyrch tybaco anghyfreithlon

Maen nhw'n dweud y gall ci fod yn ffrind gorau i chi, ac mae hynny bendant yn wir pan rydych chi'n swyddogion safonau masnach sy'n ceisio dod o hyd i gynnyrch tybaco anghyfreithlon.

cooper

 

Dyma Copper, ci sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, sydd wedi bod yn helpu Safonau Masnach Abertawe i ddod o hyd i guddfannau ar gyfer tybaco ffug ac anghyfreithlon.

Yn ystod yr ymgyrch benodol hon, chwiliodd swyddogion bump eiddo, a daethpwyd o hyd i dybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon mewn pedwar ohonynt, ac arestiwyd tri pherson.

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae gan Copper ffroen iawn am ddod o hyd i dybaco anghyfreithlon. Roedd gan rai o'r adeiladau yr ymwelodd ein timau â nhw guddfannau soffistigedig iawn gyda chynnyrch wedi'i guddio o dan lloriau, mewn dreir cudd yng nghownter siopau ac o dan y grisiau.

"Mae arbenigedd Copper yn dangos nad oes unrhyw ffordd go iawn o guddio cynnyrch tybaco anghyfreithlon."

Dywedodd y Cyng. Hopkins mai un o ymrwymiadau pennaf y cyngor yw diogelu preswylwyr rhag niwed. Nid yw tybaco ffug yn mynd drwy'r un rheolaethau gweithgynhyrchu â thybaco cyfreithlon ac yn aml caiff ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio cynhwysion niweidiol ychwanegol.

Mae Swyddogion bellach yn galw ar y cyhoedd i ddarparu gwybodaeth os ydynt yn meddwl y gallai fod siop yn gwerthu tybaco anghyfreithlon - yn enwedig i bobl dan 18 oed.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Y llynedd aethom ni â symiau mawr o dybaco a sigaréts ffug o nifer o siopau lleol yn Abertawe, gan gynnwys degau ar filoedd o sigaréts a 220kg o dybaco rholio.

"Er ein bod ni'n derbyn bod rhai o'n preswylwyr yn smygu, rydym eisiau sicrhau nad yw'r mesurau a gyflwynwyd gan y llywodraeth i leihau nifer y bobl sy'n smygu'n cael eu tanseilio gan argaeledd tybaco a sigaréts ffug."

"Un o dueddiadau diweddaraf y DU yw gwerthu e-sigaréts, ac rydym yn ceisio atal e-sigaréts anghyfreithlon ac yn apelio i unrhyw un i ddarparu gwybodaeth am leoedd lleol y maen nhw'n gwybod bod plant yn prynu e-sigaréts ynddynt.

Gallwch adrodd am werthiannau cynnyrch tybaco anghyfreithlon yn gyfrinachol i dîm safonau masnach y cyngor yma: Safonau.Masnach@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith