Toglo gwelededd dewislen symudol

Timau glanhau newydd yn gwneud gwahaniaeth yn Abertawe

Mae cymunedau yn Abertawe yn gweld gwelliannau yn eu strydoedd a'u parciau lleol yn dilyn lansio cynllun glanhau newydd yn y ddinas.

clean team

Mae'r gwasanaeth newydd a lansiwyd gan Gyngor Abertawe yn cynnwys tîm arbennig y cyfeirir atynt fel Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau - sy'n cael eu cyfeirio i fannau lle ceir llawer o sbwriel mewn cymunedau yn y ddinas gan aelodau'r cyhoedd a chynghorwyr lleol.

Mae eu gwaith yn cynnwys casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon a thorri gwair yn ogystal â chael gwared ar lystyfiant sydd wedi gordyfu mewn lleoliadau na fyddai o bosib yn cael eu trin yn rheolaidd gan brif dimau glanhau'r cyngor.

Mae'r cyngor wedi lansio gwasanaeth newydd fel rhan o ymrwymiad a wnaed y llynedd pan restrodd lu o flaenoriaethau i wneud Abertawe'n ddinas well i breswylwyr a busnesau.

Yn yr wythnosau diweddar, mae'r timau arbennig wedi'u hanfon i gymunedau ar draws y ddinas, gan gynnwys y Mwmbwls, Clydach, Casllwchwr, Treforys, y Cocyd, Mayals a Thre-gŵyr.

Mae'r gwaith wedi arwain at lawer o ganmoliaeth gan breswylwyr a chynghorwyr sy'n gweld y manteision.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod y Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau.

Meddai, "Mae'r cynllun newydd yn dibynnu'n fawr ar gyfranogaeth preswylwyr a chynghorwyr ward sy'n darparu gwybodaeth i'r tîm am y problemau y maen nhw'n teimlo y mae angen mynd i'r afael â nhw.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n bosib bod y lleoliadau y maent yn mynd iddynt yn ddiarffordd neu nid ydynt yn rhan o'n llwybrau casglu sbwriel neu dorri gwair arferol. Serch hynny, efallai bydd y cyhoedd yn sylwi ar rai o'r ardaloedd hyn pan fyddant yn mynd o gwmpas eu pethau a dyna pam rydym wedi cyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn fel bod preswylwyr yn gallu ymwneud â hyn a'u harwain i ardaloedd y mae angen sylw arnynt.

"Hyd yn hyn, rydym wedi cael adborth gwych gan breswylwyr ac aelodau ward lleol sydd i gyd wedi dweud wrthyf fod pethau'n edrych cymaint gwell ar ôl i'r timau fod yno.

"Mae hwn yn gynllun gwych ac yn un sy'n gwneud gwahaniaeth ac mae'n amlwg ei fod yn golygu llawer i breswylwyr sy'n ymfalchïo yn eu cymuned."

.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023