Toglo gwelededd dewislen symudol

Cartrefi cyngor newydd yn barod i groesawu eu tenantiaid

Mae datblygiad tai o'r radd flaenaf mewn cymuned yn Abertawe yn paratoi i groesawu preswylwyr newydd.

west cross circle

west cross circle

Mae Cyngor Abertawe yn gwneud y paratoadau terfynol i gyfres o chwe byngalo pâr newydd ar safle yn West Cross a elwir yn Y Cylch.

Mae'r cartrefi cyngor newydd diweddaraf hyn i'w datblygu gan Gyngor Abertawe'n rhan o gynllun ehangach i gyflwyno tai cyngor newydd yn y ddinas a helpu i fynd i'r afael â'r problemau digartrefedd a nodwyd yn yr ardal.

Mae'r cartrefi tra chyfoes yn cael eu hariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru ynghyd ag arian a gasglwyd drwy ffïoedd rhent y cyngor.

Yn ystod y pandemig, sicrhaodd y cyngor fwy na £5.4 miliwn gan LlC i ddarparu hyd at 80 o unedau yn y ddinas i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae peth o'r arian hwn (£763,000) wedi ei ddefnyddio i ddatblygu'r chwe byngalo newydd.

Buddsoddwyd cyllid pellach o'r Rhaglen Tai Arloesol yn y cartrefi newydd fel eu bod yn elwa o dechnoleg arbed ynni gan gynnwys storio ynni mewn batris, gwres o'r ddaear, ceudodau waliau mwy trwchus a thoeon paneli solar.

Adeiladwyd y cartrefi gan dîm Gwasanaethau Adeiladau'r cyngor, gyda help gan dîm o brentisiaid, a ddatblygodd sgiliau newydd wrth weithio gyda dulliau adeiladu sy'n ymwneud ag ynni modern.

Cynhaliwyd seremoni drosglwyddo arbennig yn ddiweddar a helpodd i nodi diwedd y cam adeiladu.

Ymunodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ag Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, i weld yr eiddo ynghyd â chynghorwyr lleol a staff o dimau Tai a Gwasanaethau Adeiladau'r cyngor.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n wych gweld yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn Cherry Blossom Lane, gydag ymdrechion ein Gwasanaethau Adeiladau ein hunain, sydd bron â chwblhau'r genhedlaeth nesaf o dai cyngor.

"Bydd y cartrefi newydd hyn ar gael i denantiaid y cyngor symud iddynt yn fuan ac maen nhw'n cynnwys yr holl dechnoleg i gadw'r cartrefi'n gynnes a'i gwneud hi'n bosib cael biliau ynni isel iawn.

"Rwy'n credu bod y cartrefi hyn yn rhagori ar ansawdd y cartrefi sydd ar gael ar y farchnad agored - maen nhw'n wych.

"Mae hyn yn ein helpu i adeiladu ar ein hymrwymiad i godi 1,000 o gartrefi newydd dros y blynyddoedd nesaf."

Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae safon gwaith adeiladu'r cartrefi newydd hyn wedi creu cymaint o argraff arnaf. Mae hyn yn glod i'n Tîm Gwasanaethau Adeiladau mewnol ynghyd â'r prentisiaid sydd wedi gweithio ar y datblygiad hwn.

"Mae gennym denantiaid yn barod, ac rydym yn barod i drosglwyddo'r allweddi iddynt ac rwy'n siŵr y byddant wrth eu bodd pan fyddant yn symud i mewn.

"Dyma'r cynllun diweddaraf ac mae'n dilyn cynlluniau ym Mlaen-y-maes, Gellifedw a'r Clâs, y mae pob un ohonynt yn cynnwys technoleg arbed ynni tebyg.

Mae rhan o'r datblygiad yn West Cross hefyd yn cynnwys creu wal derfyn fawr sy'n amgylchynu'r chwe eiddo. Crëwyd y wal drwy ddefnyddio cerrig a gloddiwyd o gynllun adeiladu tai cynharach yn y Clâs.

Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rhan o'n hathroniaeth wrth greu cartrefi newydd yw gwneud yn fawr o'r cyllid sydd gennym a hefyd edrych ar ffyrdd i ailddefnyddio deunyddiau o safleoedd eraill.

"Mae'r wal derfyn yn The Circle yn rhan hanfodol o'r datblygiad a hefyd yn nodwedd atyniadol y tu ôl i'r eiddo. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud defnydd da o'r deunyddiau a adferwyd o'n datblygiadau eraill."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023