Toglo gwelededd dewislen symudol

Pont droi boblogaidd y Marina i'w huwchraddio

Bydd pont gerddwyr ym Marina Abertawe yn cael ei huwchraddio'n llawn cyn yr haf.

swing bridge

Mae pont droi'r Marina wedi bod yn agor a chau am dros 40 mlynedd, gan ddarparu mynediad i gychod i'r Marina a hefyd ganiatáu i gerddwyr groesi o un ochr o'r ardal forol i'r llall.

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu uwchraddio'r bont boblogaidd hon, a fydd yn cynnwys tynnu dec y bont er mwyn ei adnewyddu yn ogystal â thynnu ac adnewyddu rhai o'r nodweddion mecanyddol sy'n helpu'r bont i siglo'n ôl ac ymlaen.

Bydd angen cau'r bont i'r cyhoedd er mwyn ei hadnewyddu a chwblhau'r gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Mae'r cyngor yn bwriadu dechrau'r gwaith ym mis Mawrth fel y gellir cwblhau'r atgyweiriadau cyn tymor yr haf, pan mae'r bont yn cael ei defnyddio fwyaf.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Fel gydag unrhyw farina gweithredol, prysur mae llawer o elfennau sy'n helpu i sicrhau ei fod yn rhedeg yn llyfn. O bryd i'w gilydd mae angen i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i rai o'r nodweddion hyn i estyn bywyd y marina.

"Mae Marina Abertawe yn lle hynod boblogaidd i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas, yn enwedig ym misoedd yr haf.

"Mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn cyn yr haf er mwyn lleihau'r tarfu ar gyfer y cyhoedd, gan gynnwys ein preswylwyr sy'n bwy yn yr ardal.

"Mae'r bont droi bellach dros 40 oed ac er ein bod wedi gwneud mân waith i'r adeiledd yn ystod y blynyddoedd hynny, hwn fydd y tro cyntaf i ni fynd ati i adnewyddu'r bont yn llawn.

"Bydd y gwaith a'r trefniant cau dros dro yn arwain at rywfaint o darfu i'r rheini sy'n ei defnyddio fel llwybr cerdded felly rwyf am ymddiheuro iddynt am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi wrth i ni gwblhau ein gwelliannau.

"Mae'n hanfodol bod y gwaith yn cael ei gwblhau fel y gallwn sicrhau ei bod yn aros yn ei lle i'r cyhoedd ei defnyddio a'i mwynhau am lawer mwy o flynyddoedd."

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cwblhawyd gwaith mawr i adnewyddu llifddorau mewnol y Marina, gyda buddsoddiad o £750,000. Mae'r gatiau'n rhan bwysig o'r marina am eu bod yn galluogi cychod i basio o afon Tawe i mewn i'r marina neu i'r gwrthwyneb.

Mae'r gwaith i adnewyddu'r llifddorau wedi ychwanegu 10 i 15 mlynedd at eu hoes.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae'r marina yn un o'n hatyniadau mwyaf ar gyfer y ddinas ac mae'n croesawu cannoedd o gychod a chychod hwyliau bob blwyddyn.

"Mae gwaith fel newid y llifddorau a'r gwaith sydd ar ddod i adnewyddu'r bont droi yn sicrhau y gallwn gynnal y statws nodedig y Faner Las yr ydym yn falch iawn ohono." 

Close Dewis iaith