Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynghorydd hir ei wasanaeth yn dod yn Arglwydd Faer Abertawe

Mae dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe wedi dod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer.

Deputy Lord Mayor 2022-23 Graham Thomas.

Bydd y Cynghorydd Graham Thomas yn olynu'r Cynghorydd Mike Day i ddod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2023/24 a'i ddirprwy fydd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams.

Bydd y Cynghorydd Thomas, sydd wedi bod yn aelod ward dros Gwmbwrla ers 1999, yn dechrau yn ei swydd ar ôl ei urddo ym mis Mai ar ôl i'r Cyngor Llawn gytuno i'r symudiad yn ei gyfarfod ar 30 Mawrth.

Fel Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Thomas rôl ddinesig a seremonïol bwysig fel llysgennad swyddogol ein dinas. Bydd hefyd yn ymwneud â chodi arian er sawl achos da lleol.

Meddai'r Cynghorydd Thomas,"Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth fy enwebu'n Arglwydd Faer. Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel eu Harglwydd Faer."

"Mae fy ngwraig a minnau eisoes yn edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon rydym yn meddwl y byd ohoni, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn i'n cymunedau."

Cafodd y Cynghorydd Thomas ei eni a'i fagu yn Nhrefansel, ac mae ganddo docyn tymor gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Cafodd ei addysgu yn yr ysgol uwchradd fodern leol cyn ennill cymwysterau mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Addysg Bellach Abertawe.

 

Mae'r Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, yn aelod ward dros Fairwood, gan gynrychioli ardaloedd Y Crwys, Cilâ Uchaf a Fairwood. Mae'n byw yn Y Crwys.

 

 

Close Dewis iaith