Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim yn Abertawe yn dychwelyd ar gyfer y Pasg

Gall teithwyr yn Abertawe deithio ar fysus yng nghanol y ddinas am ddim unwaith eto yn ystod gwyliau'r Pasg fel rhan o fenter Bysus am Ddim boblogaidd Abertawe.

easter free bus welsh

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig cyfle i bawb adael y car gartref a theithio ar fws i unrhyw le yn y ddinas.

Bydd y cynnig yn dechrau ar ddydd Gwener y Groglith (7 Ebrill) ac yn parhau dros ran fwyaf gwyliau ysgol hanner tymor y Pasg gyda theithiau am ddim ar gael am ddeng niwrnod o 7 i 16 Ebrill.

Er mwyn manteisio ar y cynnig teithio am ddim, bydd angen i deithwyr sicrhau bod eu teithiau'n dechrau ac yn gorffen yn Abertawe ac mae'r gwasanaeth am ddim olaf am 7pm bob dydd y mae'r cynnig ar gael.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym yn parhau gyda'n cynlluniau i gynnig teithiau am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau yn y ddinas.

"Mae'r cynnig Bysus am Ddim wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phreswylwyr a'r rheini sy'n teithio o fewn ffin y ddinas. Mae'n caniatáu'r cyfle i bawb arbed arian, gan alluogi i'r cyhoedd deithio o gwmpas Abertawe.

"Mae'r cynnig yn dychwelyd ar gyfer y Pasg, a gall teuluoedd fanteisio ar y cynnig diweddaraf yn ystod y gwyliau hanner tymor.

"Mae costau tanwydd uchel i'r rheini sydd â char yn golygu y gall teuluoedd newid eu trefniadau teithio a neidio ar fws yn lle, ac arbed rhywfaint o'u harian ar gyfer pethau eraill."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig bysus am ddim ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023