Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio rhatach i ddod i breswylwyr Abertawe

Bydd gostyngiadau mewn taliadau parcio ar gael i breswylwyr Abertawe pan fydd prisiau parcio newydd yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach y mis hwn yn y ddinas.

car park sign

Mae Cyngor Abertawe'n cyflwyno taliadau parcio ceir newydd i sicrhau y gellir cynnal meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Bydd preswylwyr yn gallu talu ffi is am barcio o 17 Ebrill. Bydd cwsmeriaid Abertawe sy'n defnyddio ap parcio Mi Permit yn cael y gyfradd is yn awtomatig. Bydd yn rhaid i'r rheini sy'n talu wrth y peiriant ddewis y tariff i breswylwyr pan fyddant yn talu.

Y cynnydd hwn mewn taliadau parcio yw'r cyntaf i'w gyflwyno ers 2014 ac mae'r cyngor wedi bod yn gwneud popeth o fewn ei allu yn y blynyddoedd diwethaf i gadw taliadau parcio'n isel i fodurwyr yn dilyn pandemig COVID a'r argyfwng costau byw.

Yn flaenorol, cyflwynwyd cynnig parcio drwy'r dydd am £2, i helpu i hybu economi manwerthu'r ddinas a chefnogi teuluoedd mewn angen wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig. Roedd parcio am ddim hefyd ar draws Abertawe yn ystod y cyfyngiadau symud i gefnogi gweithwyr hanfodol.

Ni fydd y cynnydd arfaethedig mewn prisiau'n effeithio ar wasanaethau parcio a theithio yn y ddinas a byddant yn aros ar £1 fesul car tan o leiaf 2024.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Nid ydym wedi cynyddu prisiau parcio ers wyth mlynedd yn Abertawe, gan gynnal rhai o'r prisiau parcio isaf yn y wlad.

"Yn ystod y cyfyngiadau symud cynigiwyd parcio am ddim i weithwyr allweddol ac yn dilyn y cyfyngiadau symud fe benderfynom gadw taliadau parcio yn hynod isel i helpu'r ddinas i adfer.

"Nawr, oherwydd pwysau'r argyfwng costau byw ar gyllidebau'r cyngor, bu angen  i ni ail-lunio a chynyddu prisiau o fis Ebrill ymlaen fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau parcio ceir yn cael eu diogelu a'u cynnal yn y blynyddoedd i ddod.

"Bydd preswylwyr Abertawe yn elwa o gynllun disgownt yr ydym yn ei gyflwyno, a fydd yn eu galluogi i dalu ffioedd parcio is."

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl feysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor ar gael yma https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio

 

Close Dewis iaith