Cynigion parcio am bris gostyngol newydd i siopwyr, gweithwyr a busnesau canol y ddinas
Bydd gostyngiadau parcio'n cael eu cynnig i siopwyr, busnesau canol y ddinas a'u staff mewn meysydd parcio a weithredir gan y cyngor.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y cynnig 1-2-3 poblogaidd i siopwyr yn dychwelyd gyda hyd at dair awr o barcio mewn meysydd parcio dethol am £1 yr awr am hyd at dair awr.
Gall busnesau sydd am gefnogi gweithwyr canol y ddinas wneud cais am hyd at 700 o hawlenni cost isel sy'n golygu bod pob deiliad hawlen a'i deithwyr yn gallu parcio am gyfwerth â £1.35 y diwrnod.
A bydd gan eu staff hefyd y dewis ychwanegol o barcio car am £1 y diwrnod mewn safleoedd parcio a theithio areu cyfer nhw a thri theithiwr yn ogystal ag £8 y diwrnod ar gyfer gweithwyr sydd hefyd yn breswylwyr mewn nifer o feysydd parcio yn nghanol y ddinas.
Croesawodd Russell Greenslade, cyfarwyddwr BID, gam gweithredu diweddaraf Cyngor Abertawe o ran parcio ceir.
Meddai, "Rydym yn croesawu newidiadau'r cyngor ac yn ystyried bod y prisoedd parcio newydd yn gam cadarnhaol tuag at ddenu rhagor o ymwelwyr i ganol y ddinas a chefnogi'n gweithwyr. Rydym yn rhagweld bydd y newidiadau hyn yn gwneud canol y ddinas yn gyrchfan mwy hygyrch a deniadol.
"Mae hyn yn dangos sut mae cydweithrediad rhwng sefydliadau lleol a llywodraeth leol yn gallu bod yn fuddiol ar gyfer datblygiad a llwyddiant cyffredinol dinas."
Croesawodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, adborth BID ar y newidiadau i gynigion parcio ceir sy'n ceisio bod o fudd i siopwyr, gweithwyr a busnesau canol y ddinas.
Dywedodd y gall busnesau gyflwyno ceisiadau am hawlenni i'w staff i dîm parcio ceir y cyngor yn syth fel y gallant deimlo manteision y newidiadau yn eu pocedi cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd, "Rydym wedi cyflwyno taliadau parcio newydd yn gynharach yr wythnos hon, sef y cynnydd cyntaf ers 2014, ond ar yr un pryd rydym yn cydnabod yn llawn fod yr argyfwng costau byw yn dal i effeithio ar deuluoedd a busnesau."