Trawsnewid hen adeilad y cyngor yn gartrefi trawiadol newydd
Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu dau gartref cyngor newydd yng nghymuned Gorseinon.
![alexandra road homes](/image/12505/alexandra-road-homes/standard.jpg?m=1683809819317)
Mae'r ddau dŷ pâr, tair ystafell wely wedi'u cwblhau mewn eiddo ar Alexandra Road yng Ngorseinon.
Mae'r datblygiad diweddaraf wedi cynnwys addasu adeilad sy'n eiddo i'r cyngor ar hyn o bryd ac a oedd yn arfer bod yn gartref i ganolfan seibiant nad oedd ei hangen mwyach.
Mae'r ddau gartref newydd wedi elwa o geginau newydd, ystafelloedd ymolchi newydd, ffenestri uPVC ynni effeithlon, offer gwresogi a gerddi wedi'u tirlunio'n hyfryd, yn ogystal â sied yn yr ardd.
Mae'r cyngor yn parhau â'i ymdrechion i gynyddu ei stoc tai ei hun a helpu i ddarparu cartrefi saff a diogel i breswylwyr ar y rhestr aros bresennol am dai.
Disgwylir i denantiaid lwcus y ddau eiddo dderbyn yr allweddi yn ystod y misoedd nesaf.
Aeth Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, ar daith yn ddiweddar o amgylch y tai newydd a gwblhawyd a dywedodd ei bod wrth ei bodd gyda chanlyniad y gwaith trawsnewid.
Meddai'r Cyng. Lewis, "Unwaith eto mae ein Gwasanaethau Tai ac Adeiladau Corfforaethol wedi gwneud pob ymdrech i greu dau gartref gwych newydd y maent yn barod i deuluoedd symud i mewn iddynt.
"Rydym yn parhau i ddatblygu cartrefi newydd o'r ansawdd uchaf yn y ddinas. Mae hyn yn cynnwys cwblhau cartrefi newydd ar safleoedd amrywiol yn Abertawe, yn ogystal ag ailddatblygu eiddo presennol y cyngor nad oes eu hangen mwyach.
"Mae'r cynllun diweddaraf hwn wedi trawsnewid adeilad rydym yn berchen arno ac wedi ein helpu i gynyddu nifer y tai cyngor sydd gennym yn ein stoc bresennol."
Cyn hyn, bu'r cyngor yn gweithio ar Dŷ Bryn, hen adeilad addysgol yn Uplands, a gafodd ei drawsnewid yn bedair fflat un ystafell wely ac a agorwyd ar ddechrau 2022.
Mae addasiadau pellach yn mynd rhagddynt yn y ddinas, gan gynnwys trawsnewid dwy hen Swyddfa Dai Ranbarthol yn dai.
Mae chwe byngalo dwy ystafell wely newydd sbon hefyd wedi'u cwblhau yn West Cross.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad a wnaethom i gynyddu a gwella ein stoc tai fel y gallwn leihau rhestrau aros a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol.
"Mae ein menter Rhagor o Gartrefi yn ceisio adeiladu 1,000 o dai cyngor ynni effeithlon newydd, o fewn deng mlynedd - y prosiect adeiladu tai cyngor mwyaf ers cenhedlaeth."