Adeiladwr twyllodrus o Abertawe wedi'i garcharu am bum mlynedd
Anfonwyd adeiladwr twyllodrus, sydd wedi dinistrio cartrefi ei gwsmeriaid, yn ogystal â dwyn eu holl gynilion, i'r carchar am dros bum mlynedd.
Ymddangosodd Lee Slocombe, a oedd yn rheoli ei gwmni adeiladu Kamlee Builders yn Abertawe, yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i dwyllo saith teulu er mwyn dwyn dros £147,000.
Roedd yr holl deuluoedd wedi talu symiau mawr o arian am waith adeiladu nad oedd ei angen, nad oedd wedi cael ei gwblhau neu le nad oedd angen yr holl waith a wnaed.
Roedd un o'r teuluoedd, o Abertawe, wedi talu dros £78,000 am y gwaith ac yna i ddatrys y problemau a achoswyd gan yr adeiladwr. Disgrifiwyd yr effaith a gafwyd, gan nodi eu bod wedi cyrraedd sefyllfa ariannol ddifrifol ac roedd angen iddynt drefnu nifer o fenthyciadau er mwyn talu'r bil.
Roedd cwpl arall wedi talu dros £18,000 am waith yr oedd Syrfëwr Siartredig wedi ardystio byddai'n costio llai na £600 fel arfer ac yn cymryd awr i'w gwblhau.
Cymerodd Mr Slocombe, 40 o St Thomas, arian o'r holl deuluoedd, gan gynnwys pobl sy'n agored i niwed a chafodd ei garcharu am weithgareddau tebyg yn 2015.
Daeth weithredoedd Mr Slocombe i sylw Safonau Masnach Cyngor Abertawe yn 2018 ar ôl iddynt dderbyn cwyn gan aelod o'r teulu a oedd yn bryderus am waith a oedd yn cael ei wneud ar eiddo yn Nhreforys.
Roedd y cwyn yn cynnwys teulu a oedd wedi derbyn dyfynbris o £1000 i gael gwared ar leithder yn eu heiddo. Yn y pen draw, cododd y pris i fil o dros £60,000 a gadawodd yr eiddo mewn llanast llwyr.
Anogwyd ymweliadau gan swyddogion safonau masnach gan gwynion pellach gan berchnogion cartrefi eraill yn Abertawe yn 2018, a phenderfynwyd bod gwaith wedi cael ei wneud i ansawdd is na'r safon.
Parhaodd swyddogion Safonau Masnach i ymchwilio i gwynion a oedd yn gysylltiedig â'r cwmni adeiladu rhwng 2018 a 2020. Arweiniodd yr ymchwiliadau at gyhuddo Mr Slocombe.
Yn Llys y Goron ar 9 Mai, dedfrydwyd Mr Slocombe i 5 mlynedd a 5 mis yn y carchar gan farnwr am un cownt o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus. Cafodd hefyd ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am 8 mlynedd.
Croesawodd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad yng Nghyngor Abertawe'r ddedfryd.
Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae manylion yr achos hwn yn dangos lefel annifyr o anonestrwydd a thriniaeth ddychrynllyd o deuluoedd yn Abertawe, gyda nifer ohonynt yn bobl sy'n agored i niwed.
"Mae'r teuluoedd a gafodd eu twyllo gan ymddygiad anonest Mr Slocombe wedi talu pris enfawr yn ariannol yn ogystal â dioddef straen yn ystod eu profiadau. Roeddent yn credu ei fod yn gweithredu er eu budd gorau a byddai'n gwneud y gwaith mewn modd onest. Gwyddom bellach nad oedd hynny'n wir a gwnaeth yr adeiladwr bopeth o fewn ei allu i gael symiau enfawr o arian o'r teuluoedd hyn mewn modd anonest.
"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi gwneud gwaith gwych wrth ddod â'r achos hwn i'r llys ac wrth sicrhau na fyddai unrhyw deuluoedd eraill yn dioddef o ganlyniad i'r adeiladwr twyllodrus hwn.