Toglo gwelededd dewislen symudol

'Sortwch e' yw'r cyngor i fyfyrwyr o ran ailgylchu ar ddiwedd y tymor

Mae miloedd o fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe'r haf hwn wedi cael cymorth ychwanegol i helpu i sicrhau na fydd sachau du wedi'u gadael yn plagio'u cymunedau ar ddiwedd y tymor.

student recycling

Mae tîm ailgylchu Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i roi gwybod i fyfyrwyr pryd mae eu diwrnodau casglu gwastraff yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Fel rhan o ymgyrch 'Sortiwch e' y cyngor, mae dros 1,400 o gartrefi myfyrwyr cofrestredig yn Brynmill, Uplands, Mount Pleasant a Sandfields wedi derbyn pecynnau gwybodaeth a llythyrau, sy'n darparu argymhellion a chyngor o ran yr hyn y dylid ei wneud gyda'u gwastraff cartref yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae'r llythyrau'n cynnwys rhestr lawn o ddyddiadau casglu gwastraff trwy gydol mis Mai a mis Mehefin ac mae hefyd yn atgoffa myfyrwyr o'r math o ailgylchu sy'n cael ei gasglu bob wythnos (pinc neu wyrdd).

Yn ystod mis Mehefin bydd tîm hyrwyddo ailgylchu'r cyngor hefyd yn cynnal arolygon mewn ardaloedd myfyrwyr, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi gosod y gwastraff cywir ar ochr y ffordd. Bydd y tîm hefyd yn curo ar ddrysau'r rheini sydd wedi gosod y gwastraff anghywir ar ochr y ffordd er mwyn eu hatgoffa o'r gwastraff cywir y dylid ei roi allan i'w gasglu.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae llawer iawn o fyfyrwyr yn ein dinas ac maent yn helpu i greu cymunedau amrywiol.

"Pan fyddant yn gadael ein dinas ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae'n bwysig ein bod ni'n gefnogol ohonynt ac yn sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i adael eu cymunedau'n lân ac yn daclus.

"Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn manteisio ar ein casgliadau gwastraff cartref wythnosol i gael gwared ar eitemau cyn iddynt adael.

"Bydd ein tîm hyrwyddo ailgylchu yn brysur iawn drwy gydol mis Mehefin, yn curo ar ddrysau aelwydydd myfyrwyr cyn ac ar ôl eu casgliadau trefnedig, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r hyn y gallant ei roi allan i'w gasglu.

"Rydym hefyd wedi ysgrifennu at bob aelwyd myfyrwyr gan ddarparu cyngor a gwybodaeth am reoli'u gwastraff.

"Fel unrhyw gymuned yn y ddinas, bydd rhai sachau a bagiau sydd wedi'u rhoi allan i'w casglu'n anghywir ac ymdrinnir â hyn yn y ffordd arferol. Ond yn gyffredinol, rydym wedi gweld myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb ac maent wedi'n helpu i gadw'r ddinas yn lân ac yn daclus."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2023