Toglo gwelededd dewislen symudol

Gallai cais am gyllid trafnidiaeth ddarparu hwb i gludiant cynaliadwy yn Abertawe

Mae gwelliannau i gludiant cyhoeddus, mwy o isadeiledd gwefru cerbydau trydan a llwybrau cerdded a beicio newydd yn cael eu cynllunio yn Abertawe.

active travel general

Mae Cyngor Abertawe wedi gwneud cais am bron £13 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu nifer o brosiectau a fyddai'n hybu'r defnydd o gludiant cyhoeddus ac yn cynyddu trafnidiaeth gynaliadwy yn y ddinas yn ogystal â gwella cysylltiadau trafnidiaeth ag awdurdodau cyfagos.

Mae adroddiad i'w ystyried gan y Cabinet ar 15 Mehefin yn cynnwys manylion holl gynigion y cais.

Mae cais wedi'i wneud am fwy na £4 miliwn o gyllid er mwyn datblygu prosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru - cynllun â'r nod o wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.

Mae ceisiadau wedi'u cynnwys am fwy na hanner miliwn o bunnoedd i wella hybiau cludiant cyhoeddus yn Nhre-gŵyr a Phontarddulais. Bydd peth o'r cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i barhau gwaith y cyngor i chwilio am safle parcio a theithio amgen ar gyfer Glandŵr - mae'r safle presennol bellach yn rhan o'r gwaith ehangach i adfywio'r Gwaith Copr.

Bwriedir i'r ceisiadau ychwanegol yn yr adroddiad alluogi cam nesaf yr isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn Abertawe, a chynyddu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael i berchnogion cerbydau trydan.

Mae cais yn cael ei wneud hefyd am £6 miliwn ychwanegol, mewn ymgais i ehangu isadeiledd cerdded a beicio'r ddinas. Os bydd yn llwyddiannus, caiff yr arian ei ddefnyddio i greu llwybrau oddi ar y ffordd newydd ledled y ddinas. Mae'r rhain yn cynnwys llwybr newydd yng ngogledd cymuned Treforys, gwelliannau i'r llwybr rhwng Pontybrenin a Phengelli, yn ogystal â llwybrau newydd ym Mhontarddulais a llwybr rhwng y DVLA ac Ysbyty Treforys.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae cynyddu ein hisadeiledd gwefru cerbydau trydan yn Abertawe yn allweddol i annog mwy o fodurwyr i newid i geir trydan.

"Fel cyngor, rydym hefyd yn cynyddu nifer y cerbydau trydan rydym yn eu gweithredu ar draws ein cerbydlu cyfan. Rydym hefyd wedi gosod pwyntiau gwefru trydan mewn llawer o'n meysydd parcio yng nghanol y ddinas a ger ein traethau. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i barhau â'r gwaith hwn."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn ddatganiad clir o'n bwriadau i fwrw ymlaen â gwelliannau mawr ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy yn Abertawe.

"Mae cludiant cynaliadwy'n rhan hanfodol o unrhyw ddinas fawr ac nid ydym yn wahanol o ran eisiau sicrhau bod gennym yr holl isadeiledd ar waith sy'n helpu i hybu'r defnydd o fysus, trenau a thacsis yn Abertawe, a hefyd yn gwella cysylltiadau â'n cymdogion yn Sir Gâr, Sir Benfro a Chastell-nedd a Phort Talbot.

"Mae'r adroddiad hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r holl faterion hynny yn ogystal â chyflwyno cynlluniau i gynyddu'r defnydd o gerbydau trydan yn y ddinas.

"Rydym hefyd yn ceisio cyllid pellach i barhau â'r gwaith gwych a gwblhawyd mewn blynyddoedd blaenorol i greu llwybrau cerdded a beicio newydd. Mae nifer o gynlluniau newydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad sy'n ymhelaethu ar yr hyn rydym wedi'i ddatblygu'n ddiweddar, sef helpu i gysylltu cymunedau a helpu i leihau ein dibyniaeth ar geir.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gefnogol mewn blynyddoedd blaenorol o ran ariannu'r cynlluniau hyn ac rwy'n hyderus bod ein Tîm Trafnidiaeth unwaith eto wedi rhoi cyfres o gynlluniau ynghyd a fydd o fudd enfawr i Abertawe.