Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleusterau 'Changing Places' hanfodol yn gwella mynediad i'r traeth i bobl ag anableddau

Mae cyfleusterau toiled 'Changing Places' cwbl hygyrch wedi cael eu gosod mewn dau draeth arall yn Abertawe a Gŵyr.

changing places

Mae'r gwaith diweddaraf i osod y cyfleusterau arbenigol hyn yn Knab Rock yn y Mwmbwls ac yn Rhosili'n sicrhau bod pobl ag anableddau lluosog a chymhleth yn allu cael mynediad i'r traeth a mwynhau ymweliad cyfforddus.

Mae Cyngor Abertawe wedi gosod cyfleusterau 'Changing Places' fel rhan  o'i waith cyfredol i wella toiledau cyhoeddus ar draws y ddinas.

Mae'r gwaith diweddaraf hwn bellach yn golygu bod tri o'r cyfleusterau hyn ar hyd morlin Abertawe, gyda'r llall ym Mae Caswell.

Mae cyfleusterau 'Changing Places' yn cynnwys cyfarpar hanfodol i gefnogi'r rheini ag anableddau penodol, gan gynnwys meinciau y gellir addasu eu huchder ac offer ymolchi, teclyn codi wedi'i osod ar nenfwd a lle digonol ar gyfer cynorthwywyr cefnogi.

Mae'r cyngor, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wedi buddsoddi bron £190,000 i osod y cyfarpar mawr ei angen.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig ydyw fod gennym y mathau hyn o gyfleusterau yn ein dinas, yn enwedig ar ein traethau.

"Er bod llawer o bobl a rhai anableddau'n gallu defnyddio'r toiledau safonol rydym yn eu darparu, mae llawer ar draws y DU yn byw gyda phroblemau mwy cymhleth, y mae angen cefnogaeth arnynt, fel y rheiny ag anafiadau i'r cefn, pobl sydd wedi cael strôc neu'r rheini ag anableddau dysgu lluosog.

"Mae'r blociau toiledau newydd yn Knab Rock a Rhosili'n sicrhau bod y bobl hyn yn gallu teimlo'n gyfforddus a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu wrth iddynt ymweld â rhai o'n traethau gwych yn Abertawe a Gŵyr.

"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gosod y toiledau Changing Places newydd a chynyddu'r dewisiadau i bobl y mae arnynt eu hangen. Gwnaed hyn yn bosib gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a ddarparodd grant o'u rhaglen Y Pethau Pwysig."

Mae'r cyngor wedi cwblhau'r gwaith ar ôl cymeradwyo strategaeth Toiledau Cyhoeddus ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae'r strategaeth wedi ceisio buddsoddi'n drwm mewn toiledau sy'n bod ledled Abertawe ac wedi arwain at welliannau mawr ar draws y ddinas.

Mae mwy na £300,000 wedi cael ei wario ar gyfleusterau toiledau ac mae'r diweddaraf i elwa o'r gwaith yn cynnwys y bloc toiledau ym Mhorth Einon sydd wedi cael ei ailbaentio a'i aildeilsio.

 Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae llawer o'n blociau toiledau cyhoeddus mewn cymunedau ar draws Abertawe wedi cael eu diweddaru fel rhan o'r buddsoddiad. Rydym wedi adnewyddu cyfleusterau'n flaenorol yng Nghlydach ac yn fwy diweddar wedi cwblhau gwelliannau ym Mhorth Einon."

Mae rhestr a map rhyngweithiol o fwy na 30 o doiledau cyhoeddus o gwmpas Abertawe i'w chael yma:https://www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2023