Toglo gwelededd dewislen symudol

£2 filiwn yn ychwanegol eleni i drwsio ffyrdd yn Abertawe

Mae ffyrdd yn Abertawe a ddifrodwyd gan dywydd y gaeaf yn cael mwy o fuddsoddiad er mwyn helpu i'w hatgyweirio.

pothole repair

Mae Timau Cynnal Priffyrdd Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i atgyweirio miloedd o dyllau yn y ffordd ers dechrau 2023, yn ogystal â chwblhau cynlluniau ail-wynebu mwy.

Dioddefodd ffyrdd y ddinas ddifrod eang o ganlyniad i aeaf gwlyb ac oer ar ddechrau'r flwyddyn.

Ym mis Mawrth, cymeradwyodd y cyngor £3.468 miliwn i helpu i ariannu priffyrdd a gwelliannau isadeiledd.

Yr wythnos hon, cymeradwywyd cynlluniau i fuddsoddi £2 filiwn arall yn 2023/24 i helpu gydag atgyweiriadau. Mae £1 miliwn yn cael ei darparu drwy ddyraniad y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2024/25, a chaiff ei hariannu drwy arian wrth gefn y cyngor ar gyfer yswiriant. Bydd £1 miliwn arall yn cael ei buddsoddi eleni fel rhan o ddyraniad o £3 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r cyhoeddiad cyllid diweddaraf hefyd yn dilyn cytundeb a wnaed ym mis Mai i fuddsoddi £450,000 mewn atgyweiriadau ffyrdd.

Mae'r priffyrdd sydd wedi'u nodi ar gyfer gwaith ail-wynebu mawr yn 2023/24 yn cynnwys Neath Road yng Nglandŵr, Mumbles Road, Gors Avenue yn Townhill, Nantong Way, Swansea Road - Llewitha, Middle Road yn Gendros a chyffordd 47 yr M4 ym Mhenlle'r-gaer.

Mae'r timau tyllau yn y ffordd hefyd wedi atgyweirio dros 1,500 o ddiffygion ers dechrau mis Ebrill, fel rhan o addewid y cyngor i atgyweirio tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Roeddem eisoes wedi cytuno i fuddsoddiad sylweddol yn ein ffyrdd ar draws y ddinas wrth gymeradwyo'n cyllideb yn gynharach eleni.

"Mae'r effaith ar ein ffyrdd yn ystod misoedd y gaeaf wedi'n hysgogi i ystyried sut gallwn fuddsoddi ymhellach. Gwnaeth nifer o ffyrdd ddioddef difrod eithaf difrifol ac roedd ein timau atgyweirio tyllau yn y ffordd yn brysurach nag erioed, gan atgyweirio mwy o dyllau yn y ffordd nag erioed.

"Bydd yr arian ychwanegol hwn yn sicrhau ein bod yn cwblhau'r gwaith cynnal a chadw cynlluniedig sydd eisoes ar waith, yn ogystal ag ymateb i alwadau gan y cyhoedd i atgyweirio ffyrdd yn eu cymunedau."

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd sy'n cael eu hailwynebu yn Abertawe, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/blaenraglenwaithpriffyrdd

 

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mehefin 2023