Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais i fodurwyr ddiffodd injans eu ceir ger ysgolion i helpu ansawdd aer

Mae prosiect ymchwil wedi cychwyn mewn ysgol yn Abertawe i helpu i wella ansawdd aer.

clean air day

Mae Tîm Llygredd Cyngor Abertawe wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe a ThinkAir i edrych ar effaith yr allyriadau a gynhyrchir gan gerbydau wrth i injans ceir a bysus droi'n segur ger ysgolion.

Mae'r cynllun wedi'i ariannu drwy Gronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol Llywodraeth Cymru mewn ymgais i ddarparu aer glanach mewn ardaloedd adeiledig

Mae unedau ansawdd aer a monitro sŵn wedi bod yn casglu data y tu allan i Ysgol Gynradd Ystumllwynarth. Mae arwyddion arbennig wedi'u gosod hefyd i annog modurwyr i ddiffodd injans eu ceir os ydynt yn aros am gyfnodau estynedig wrth oleuadau, a gofynnwyd i breswylwyr lleol gasglu data arolwg ar eu gwybodaeth a'u credoau am segura ac ansawdd aer.

Dewiswyd yr ysgol fel safle delfrydol ar gyfer y prosiect peilot oherwydd ei agosrwydd at heol brysur a goleuadau traffig agos.

Roedd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi ymweld â'r ysgol fel rhan o Ddiwrnod Aer Glân a gynhelir ar 15 Mehefin.

Meddai Julie James, "Mae angen i bob un ohonom wneud yr hyn y gallwn i sicrhau bod ein plant a phawb yng Nghymru'n anadlu aer glân.

"Drwy ein Cronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i ymgymryd â phrosiectau amrywiol i fynd i'r afael â llygredd a chefnogi iechyd a lles. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r prosiect segura ar y cyd yn Ysgol Gynradd Ystumllwynarth yn Abertawe, a'r effaith y mae hyn wedi'i gael ar ansawdd aer o gwmpas yr ysgol."

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol yng Nghyngor Abertawe, "Dylai llygredd aer a gwella ansawdd aer fod yn destun pryder i bawb. Mae'r cynllun rydym wedi bod yn gweithio arno yn Ystumllwynarth wedi dibynnu ar gyfranogiad modurwyr i wneud y peth iawn a pheidio â gadael i'w cerbydau segura am gyfnodau estynedig. Mae hyn yn digwydd mewn ysgolion o gwmpas y ddinas yn ogystal â mewn mannau eraill yn y wlad.

"Rydym wrthi'n astudio'r data a gasglwyd yn ystod y broses fonitro -  i weld a yw'r arwyddion sydd gennym yno wedi annog modurwyr i wneud y peth iawn ac o ganlyniad, wella ansawdd aer. Os yw hyn yn wir, efallai y byddwn yn ystyried cyflwyno cynllun tebyg o gynnwys arwyddion cynghori ger ysgolion eraill.

 Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Cynhaliwyd astudiaeth peilot yn Sgeti ym mis Gorffennaf 2022 a ddangosodd bod modurwyr yn barod i wneud eu rhan a dangos ystyriaeth i'w hamgylchedd lleol. Rydym mewn cyfnod nawr lle mae gan gerbydau modern gyfarpar ynddynt sy'n diffodd injans yn awtomatig pan fyddant wedi stopio.. Roedd yr arwyddion yn dangos bod modurwyr eraill wedi diffodd injans eu ceir a bod ansawdd aer wedi gwella."

Meddai Dr Menna Price, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, "Mae ein hymchwil flaenorol wedi dangos bod rhoi negeseuon ynghylch newid ymddygiad yn ffordd syml ac effeithiol o annog gyrwyr i stopio segura pan fyddant yn llonydd mewn traffig a gwella ansawdd aer. Mae hyn yn arbennig o wir pan mai nod negeseuon o'r fath yw goresgyn rhwystrau a nodwyd rhag diffodd injans ceir.

"Mae ysgolion cynradd wrth ymyl ffyrdd prysur yn arbennig o bwysig i'w targedu gyda'r math hwn o ymyriad o gofio'u hagosrwydd at draffig sy'n segura. O ganlyniad, rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i gredoau ac ymddygiadau gyrwyr mewn perthynas ag injans yn troi'n segur ger Ysgol Ystumllwynarth ac effeithiau'r math hwn o negeseua ar ansawdd aer y tu allan i'r ysgol."