Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau'n cael eu dyfarnu i Abertawe ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth

Bydd rhagor o lwybrau cerdded a beicio diogel yn dod i Abertawe ar ôl i'r ddinas dderbyn hwb sy'n werth miliynau o bunnoedd.

active travel general

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn £5,367,000 o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddatblygu nifer o lwybrau newydd ar draws y ddinas, a fydd yn helpu i gysylltu mwy o gymunedau â llwybrau cludiant cynaliadwy.

Mae'r llwybrau newydd y bwriedir eu creu yn cynnwys llwybr ar draws Comin Clun, llwybr newydd yng ngogledd cymuned Treforys - gan greu llwybr cerdded a beicio diogel o Barc Gwyliau Riverside, gwelliannau i'r llwybr presennol rhwng Pontybrenin a Phengelli, a llwybrau newydd ym Mhontarddulais a rhwng y DVLA ac ysbyty Treforys.

Mae cyllid hefyd wedi'i ddarparu i ehangu blaendraeth presennol y Mwmbwls a chaiff y gwaith ei gwblhau fel rhan o'r gwelliannau parhaus i amddiffynfeydd arfordirol y Mwmbwls.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn eto eleni o ran ariannu'r mwyafrif o gynlluniau rydym wedi'u cyflwyno yn ein cais am grant.

"Mae cerdded a beicio unwaith eto'n rhan fawr o'n cais ac rydym wedi derbyn arian sylweddol i ddatblygu hyd yn oed mwy o lwybrau yn Abertawe, gan helpu i gysylltu cymunedau'n well a rhoi cyfle i breswylwyr ddewis cerdded neu feicio er mwyn teithio o amgylch ein dinas yn ddiogel."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mehefin 2023