Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio am ddim a mwy yn Abertawe'r penwythnos hwn

Bydd siopwyr a'r rheini sy'n ymweld â chanol dinas Abertawe yn cael parcio am ddim am ddeuddydd yn ystod penwythnos olaf mis Mehefin (y 24ain a'r 25ain).

car park image 1

Dywedodd  Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, ei fod yn rhan o ymrwymiad y cyngor i siopwyr, busnesau ac ymwelwyr fel y'i gilydd.

 "Rydym yn gwneud popeth y gallwn i barhau i gefnogi'r cyhoedd a busnesau lleol yn Abertawe a bydd y cynigion parcio hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r rheini sy'n gweithio ac yn siopa yng nghanol y ddinas."

Yn ddiweddarach yn yr haf, bydd y cyngor hefyd yn cychwyn y cynnig bysus am ddim sydd wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus yn ystod y gwyliau ysgol. Caiff y gwasanaeth bysus am ddim ei lansio yn ystod y gwyliau haf ysgolion a bydd yn galluogi unrhyw un i deithio am ddim ar unrhyw fws yn Abertawe.

 Ychwanegodd y Cynghorydd Stewart, "Mae'r cynnig bysus am ddim wedi cael effaith gadarnhaol o ran lleihau costau teithio i deuluoedd, yn ogystal ag annog mwy o bobl i ddod allan o'u ceir a defnyddio cludiant cyhoeddus. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddychweliad ym mis Gorffennaf."

Mae pris parcio yn safleoedd y cyngor yng Nglandŵr a Fabian Way yn parhau'n £1.

I gael gwybod mwy am barcio ceir yng nghanol dinas Abertawe, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio

 

 

Close Dewis iaith