Toglo gwelededd dewislen symudol

Pont y marina'n ailagor i gerddwyr yn dilyn gwaith adnewyddu

Mae pont sy'n boblogaidd ymhlith cerddwyr ym Marina Abertawe wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn cwblhau gwaith adnewyddu.

Mae pont droi'r marina wedi bod ar gau i gerddwyr ers mis Mawrth eleni wrth i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau.

Mae pont droi'r marina wedi bod yn agor a chau am dros 40 mlynedd, gan ddarparu mynediad i gychod i'r Marina a hefyd ganiatáu i gerddwyr groesi o un ochr o'r ardal forol i'r llall.

Roedd y gwaith yn cynnwys gosod rhannau mecanyddol newydd yn ogystal â'i hailbaentio, gan roi bywyd newydd i'r offer am flynyddoedd i ddod.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Fel gydag unrhyw farina gweithredol, prysur mae llawer o elfennau sy'n helpu i sicrhau ei fod yn rhedeg yn llyfn. O bryd i'w gilydd mae angen i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i rai o'r nodweddion hyn i estyn bywyd y marina.

"Mae Marina Abertawe yn lle hynod boblogaidd i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas, yn enwedig ym misoedd yr haf.

"Rwy'n falch ein bod wedi gallu cwblhau'r gwaith heb unrhyw oedi a gwneud yn siŵr ei fod yn barod ar gyfer tymor yr haf."

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cwblhawyd gwaith mawr i adnewyddu llifddorau mewnol y Marina, gyda buddsoddiad o £750,000. Mae'r gatiau'n rhan bwysig o'r marina am eu bod yn galluogi cychod i basio o afon Tawe i mewn i'r marina neu i'r gwrthwyneb.

Mae'r gwaith i adnewyddu'r llifddorau wedi ychwanegu 10 i 15 mlynedd at eu hoes.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Y marina yw un o'n hatyniadau mwyaf i'n dinas ac mae'n croesawu cannoedd o gychod a chychod hwylio bob blwyddyn, felly mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn yr offer sy'n helpu i gadw'r marina'n weithredol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2023