RNLI a'r cyngor yn cyhoeddi rhybudd am farbeciws ar y traeth
Mae fideos newydd wedi datgelu bod glo poeth iawn o farbeciws tafladwy a thanau ar y traeth yn peryglu ymwelwyr â'n cyrchfannau glan môr.
Mae achubwyr bywyd yr RNLI yn dechrau eu sifft foreol ar draethau Abertawe drwy ddiffodd y tanau a adawyd yn ddifeddwl gan ddathlwyr o'r nos gynt.
Nawr, mae'r RNLI a Chyngor Abertawe yn gweithio gyda'i gilydd i dynnu sylw at y broblem a all achosi llosgiadau difrifol i bobl anwyliadwrus.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae pobl sy'n cynnau tanau ar draethau neu sy'n gadael barbeciws tafladwy ar eu hôl neu'n eu claddu ar ôl eu defnyddio yn eithriadol o anghyfrifol.
"Nid yw tywod yn eu diffodd, mae'n cadw'r gwres i mewn ac, fel y mae'r fideos yn ei ddangos, mae'r glo yn dal yn boeth iawn y bore wedyn pan fydd achubwyr bywyd yr RNLI yn dechrau eu shifftiau. Gallwn ond diolch iddynt am sylwi ar y broblem a gwneud rhywbeth yn ei chylch cyn i rywun sefyll arnynt ar ddamwain."
Meddai, "Cafwyd nifer o achosion yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle mae plant wedi cael eu creithio am oes drwy sefyll ar ddamwain ar farbeciws tafladwy a glo poeth wedi'i gladdu o dan y tywod ar draethau.
"Mae'r cyngor wedi gosod 15 o finiau ar gyfer barbeciws ar rai o'n traethau prysuraf, felly does dim esgus i beidio â gwneud y peth iawn."
Mae timau glanhau traethau'r cyngor hefyd yn glanhau'r traethau bob bore yn ystod yr haf a thrwy gydol y dydd. Maent yn aml yn cael eu cynorthwyo gan wirfoddolwyr sydd hefyd am weld traethau glân. Mae timau ychwanegol hefyd yn targedu mannau lle ceir llawer o sbwriel ar yr adegau prysuraf.