Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio drwy'r dydd am £5 yn cael ei gyflwyno yng nghanol dinas Abertawe ym mis Gorffennaf

Disgwylir i fodurwyr a busnesau yng nghanol dinas Abertawe elwa o ffïoedd parcio newydd ym meysydd parcio'r ddinas.

car park image 1

Mae Cyngor Abertawe'n lansio'i gynllun ffïoedd parcio 1-2-3-4-5 newydd ar 24 Gorffennaf.

Bydd hyn yn golygu y gall modurwyr sy'n parcio mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor yng nghanol y ddinas* barcio drwy'r dydd am £5.

Mae'r cynllun hefyd yn golygu y bydd yr awr gyntaf yn costio £1, bydd dwy awr yn costio £2, a bydd parcio drwy'r dydd yn costio £5.

Mae'r cyngor wedi lansio'r pecyn i annog mwy o bobl i ddod i ganol y ddinas a chefnogi manwerthu lleol. Mae hefyd yn debygol mai'r ffïoedd hyn yw'r ffïoedd rhataf yn y wlad ar gyfer dinas fawr.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd modurwyr yn talu £5 yn unig i barcio drwy'r dydd mewn maes parcio yng nghanol y ddinas, sy'n golygu taw ni yw un o'r dinasoedd rhataf yn y DU.

"Mae'r cyngor yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi busnesau lleol, yn ogystal â helpu i leihau'r pwysau ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau.

"Mae ein cynlluniau diweddaraf yn rhan o'n hymrwymiad i fusnesau, gweithwyr canol y ddinas ac ymwelwyr â chanol y ddinas i sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian wrth barcio yng nghanol y ddinas.

"Yn ddiweddar gwnaethom ddarparu ddeuddydd o barcio am ddim yng nghanol y ddinas, ac roedd wedi helpu i annog llawer o bobl i gefnogi busnesau lleol. Ein nod yw ailadrodd hyn a darparu mwy o fentrau parcio am ddim dros y penwythnos yn ystod misoedd yr haf.

Mae'r cynlluniau diweddaraf wedi cael eu croesawu gan arweinwyr busnes yng nghanol y ddinas, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor i sefydlu'r ffïoedd. 

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB Abertawe: "Rwyf wrth fy modd i groesawu'r cynnig parcio newydd hwn a ddarperir gan Gyngor Abertawe. Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael y cyfle i gyfrannu mewnbwn a mewnwelediad gwerthfawr at greu'r fenter newydd hon.

"Mae gweithredu'r strwythur prisio newydd hwn yn bwysig ac yn gam cadarnhaol ymlaen, ac mae'n dangos ymrwymiad i ddeall anghenion a dyheadau busnesau canol y ddinas, ac yn dangos sut gall cydweithio rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus greu newid cadarnhaol.

"Rydym yn awyddus i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y cynigion parcio newydd hyn yn ei chael ar ganol ein dinas a'n busnesau, ac rydym yn gobeithio y byddant yn denu mwy o ymwelwyr, yn annog pobl i aros yn hirach ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'n busnesau ac yn gwario arnynt."

Disgwylir i wasanaeth bysus am ddim Abertawe ddychwelyd ar ddiwedd mis Gorffennaf hefyd. Bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn gallu teithio i unman yn Abertawe am ddim yn ystod penwythnosau hir (dydd Gwener i ddydd Llun), hyd at ddiwedd mis Awst.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stewart, "Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol gyda'r cynlluniau teithio ar fysus am ddim, gan helpu i hybu'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn ogystal â galluogi teuluoedd i arbed arian wrth deithio.

"Ar ôl cyflwyno'r ffïoedd parcio rhatach, y cynnig parcio am ddim dros y penwythnos a theithio ar fysus am ddim, mae Abertawe'n debygol o fod y ddinas sy'n cynnig y gwerth gorau am arian yn y wlad, a bydd yn rhoi cyfle i deuluoedd arbed eu harian yn ystod gwyliau ysgol yr haf."

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys edrych ar ffïoedd parcio mewn meysydd parcio arfordirol ac ar y traeth - sy'n destun ffïoedd haf a gaeaf gwahanol ar hyn o bryd. Mae'r cyngor yn bwriadu ymgynghori â busnesau arfordirol er mwyn dod o hyd i opsiwn ar gyfer ffïoedd newydd yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn y cyfamser, gall preswylwyr sy'n ymweld ag ardaloedd arfordirol elwa o ostyngiadau preswylwyr o hyd.

*Nid yw'r cynnig yn cynnwys maes parcio aml-lawr Bae Copr.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mehefin 2023