Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy o gynigion i fodurwyr barcio am ddim yng nghanol y ddinas ym mis Gorffennaf

Mae mwy o gynigion i barcio am ddim ar y penwythnos wedi'u cynllunio ar gyfer canol dinas Abertawe yn ystod mis Gorffennaf.

car park 2

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig i fodurwyr barcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio canol y ddinas a restir ar ei wefan* ar benwythnosau 8/9 Gorffennaf a 22/23 Gorffennaf.

Mae'r cynnig parcio am ddim yn rhan o becyn o gymorth i ymwelwyr a busnesau canol y ddinas, gan helpu i annog mwy o bobl i ymweld â'r ardal.

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn cynnig parcio am ddim am benwythnos o hyd y gwnaeth cannoedd o fodurwyr fanteisio arno.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n bleser gennym gynnig rhagor o barcio am ddim dros y penwythnos yn ystod mis Gorffennaf. Llwyddodd ymwelwyr â chanol y ddinas i fanteisio'n ddiweddar ar gynnig tebyg ac yn ei dro rydym yn gobeithio bod hyn wedi helpu i roi hwb i fasnach yng nghanol y ddinas. 

"Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy a dyma pam rydym wedi cyhoeddi cynigion pellach i barcio am ddim fel rhan o becyn ehangach o fesurau. Mae hyn yn cynnwys ein cynlluniau i gyflwyno ffi gystadleuol iawn o £5 i barcio drwy'r dydd ym mhob un o feysydd parcio canol y ddinas.

"Bydd y cynnig bysus am ddim hefyd yn dychwelyd i'r ddinas ar gyfer gwyliau haf yr ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i deuluoedd fynd ar ddiwrnodau mas i'n traethau a theithiau siopa yng nghanol y ddinas."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mehefin 2023