Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o safleoedd yn Abertawe wedi'u gwella diolch i lansiad gwasanaeth glanhau newydd

Mae gwasanaeth glanhau yn y ddinas, a gyflwynwyd gan Gyngor Abertawe yn 2022, wedi glanhau a thacluso dros 400 o safleoedd yn y ddinas.

cleansing ward operative team

Lansiodd y cyngor y fenter Timau Gweithredol Glanhau Wardiau (TGGW) newydd i fynd i'r afael ag ardaloedd o fewn cymunedau nad ydynt yn rhan o'r drefn lanhau reolaidd, ac mae'n dibynnu ar wybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd ac aelodau ward i arwain y timau.

Ers mis Ionawr eleni, aed i'r afael â thros 400 o safleoedd, gyda gwaith yn amrywio o godi sbwriel a chael gwared ar lwyni sydd wedi tyfu'n wyllt, glanhau arwyddion traffig a stryd a chael gwared ar dipio'n anghyfreithlon.

Mae'r gwelliannau wedi cael llawer o sylw gan aelodau'r cyhoedd ac aelodau ward lleol, sydd wedi canmol ymdrechion y timau newydd a'r trawsnewidiad o fewn eu cymunedau.

Cyflwynodd y cyngor y timau newydd i ategu gwasanaethau glanhau presennol fel rhan o'r ymrwymiad i wneud Abertawe'n lle gwell i fyw i breswylwyr a busnesau.

Mae Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, wedi datgan bod y gwasanaeth wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i bobl leol sy'n byw mewn cymunedau yn y ddinas.

Meddai, "Mae'r cynllun newydd yn boblogaidd iawn ac wedi cynhyrchu digonedd o waith, gydag aelodau ward lleol ac aelodau'r cyhoedd yn chwarae eu rhan drwy arwain y timau i leoliadau penodol y mae angen ychydig o sylw arnynt.

"Er bod gennym eisoes dimau glanhau rheolaidd sy'n gweithio'n galed i lanhau ardaloedd cyhoeddus fel ardaloedd siopa a pharciau lleol, mae'r timau newydd hyn yn ymdrin ag ardaloedd yn y gymuned nad ydynt yn cael eu glanhau mor aml fel rhan o'r gwaith glanhau rheolaidd rydyn ni'n ei gyflawni.

"Bob wythnos, mae'r timau'n treulio amser mewn nifer o wardiau yn ymdrin â pha faterion bynnag a adroddwyd iddynt gan aelodau ward. Rwy'n falch bod aelodau ward lleol wedi ymateb yn gadarnhaol i'r fenter a'u bod yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom yn uniongyrchol i'r timau.

"Ein nod yw darparu tîm ymateb sy'n gwella ar yr hyn rydyn ni eisoes yn ei wneud."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Awst 2023