Toglo gwelededd dewislen symudol

Goleuadau newydd yn cael eu gosod ar hyd un o forliniau enwocaf Cymru

Disgwylir i bromenâd golygfaol Bae Abertawe o'r Mwmbwls hyd at faes chwaraeon San Helen gael ei oleuo gyda'r hwyr.

promenade lights

Mae miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr yn defnyddio'r llwybr cerdded a beicio poblogaidd bob wythnos.

Mae Cyngor Abertawe yn y broses o osod mwy na 300 o golofnau goleuo LED ynni effeithlon ar hyd y llwybr cerdded a beicio poblogaidd fel y gall y rheini sy'n defnyddio'r llwybr deimlo'n fwy diogel gyda'r hwyr.

Mae'r colofnau goleuo lefel isel newydd yn cael eu gosod pob 14 metr ar hyd y prom, yn dilyn buddsoddiad o dros £400,000. Disgwylir i bob golau ynni effeithlon gostio £15 y flwyddyn yn unig i'w ddefnyddio.

Mae'r cam cyntaf rhwng West Cross a Blackpill wedi cael ei gwblhau a bydd y camau nesaf yn cael eu cwblhau er mwyn sicrhau bod y llwybr cyfan ar hyd y promenâd wedi'i oleuo. Disgwylir i'r gwaith yn yr ardal gael ei gwblhau'n llawn yn gynnar yn 2024.

Mae'r gosodiad diweddaraf yn dilyn gwaith i oleuo rhan o'r llwybr sy'n filltir o hyd yn West Cross, lle mae colofnau goleuo newydd eisoes wedi cael eu gosod ar ôl i aelodau ward lleol buddsoddi arian o gynllun buddion cymunedol y cyngor i osod y goleuadau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Bae Abertawe'n gyrchfan poblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr â'r ardal.

"Mae'r promenâd yn croesawu miloedd o bobl bob wythnos gyda llawer ohonynt yn cerdded, yn gwthio pramiau, yn mynd â'u hanifeiliaid anwes am dro neu'n beicio ar ei hyd rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls.

"Mae rhan o'r llwybr sy'n filltir o hyd yn West Cross wedi cael ei gwella gan y goleuadau a osodwyd yna yn ddiweddar. Rydym bellach wedi penderfynu buddsoddi mewn gosod hyd yn oed rhagor o oleuadau rhwng San Helen a'r Mwmbwls.

"Rwyf hefyd yn falch bod y goleuadau newydd wedi cael eu dewis oherwydd eu rhinweddau ynni effeithlon. Rydym wedi amcangyfrif y bydd pob golau yn costio £15 y flwyddyn yn unig i'w ddefnyddio, sy'n golygu bod hyn yn ddull cost effeithiol o wella'r llwybr a helpu pobl i deimlo'n llawer mwy diogel gyda'r hwyr."

Mae gwaith mawr i uwchraddio'r morglawdd hefyd yn mynd rhagddo ar y promenâd er mwyn gwella'r amddiffynfeydd môr rhwng Knab Rock a Sgwâr Ystumllwynarth.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailfodelu rhan o'r promenâd ar hyd y llwybr er mwyn ei gwneud yn fwy addas i gerddwyr a beicwyr.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Bydd gwelliannau gweledol i'r ardal yn creu glan wyrddach, fwy cynaliadwy a mwy deniadol - ased i'r gymuned leol ac atyniad i ymwelwyr.

"Bydd yr amddiffynfeydd môr gwell yn amddiffyn cartrefi, busnesau ac ardaloedd hamdden rhag effeithiau lefelau môr cynyddol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy." 

 

Close Dewis iaith