Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliadau ailgylchu cartref y Nadolig hwn

Mae'r dyddiadau ar gyfer casglu ailgylchu cartref yn Abertawe dros gyfnod y Nadolig wedi cael eu cadarnhau.

Swansea Council Logo (landscape)

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau'r dyddiadau y bydd yn casglu gwastraff ac ailgylchu cartref yn y pythefnos rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Bydd yr holl gasgliadau gwastraff yn Abertawe yn yr wythnos ar ôl Dydd Nadolig yn digwydd deuddydd yn hwyrach nag arfer.

Ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff yn y ddinas ddydd Llun 1 Ionawr. Bydd yr holl gasgliadau gwastraff yn ystod wythnos gyntaf y Flwyddyn Newydd yn digwydd diwrnod yn hwyrach nag arfer, o ddydd Mawrth 2 Ionawr i ddydd Sadwrn 6 Ionawr.

Mae'r cyngor hefyd wedi rhoi cynlluniau ar waith i reoli'r cynnydd mewn ailgylchu dros y Nadolig, ac mae'n bwriadu defnyddio staff y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gyfer y casgliadau ailgylchu. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw gasgliadau gwastraff gardd yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Bydd ein timau casglu gwastraff ac ailgylchu cartref yn sicrhau y gall ein preswylwyr gael gwared ar eu holl ailgylchu yn ystod y cyfnod prysur hwn.

"Mae bob amser cynnydd mawr yn swm yr ailgylchu cartref sy'n cael ei gyflwyno i'w gasglu yn ystod cyfnod y Nadolig a hefyd drwy gydol mis Ionawr.

"Mae hyn yn rhoi llawer o bwysau ar ein criwiau casglu a'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym. Mae'n gwneud synnwyr i beidio â chasglu gwastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn a defnyddio'r timau hyn i helpu i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff arferol.

"Nifer bach iawn o breswylwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethu casglu gwastraff gardd yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr - tua 5% o aelwydydd Abertawe. Os hoffai preswylwyr gael gwared ar wastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein canolfannau ailgylchu ar agor fel arfer i unrhyw un sy'n dewis ymweld â nhw."