Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim ar gyfer cyfnod yr ŵyl yn Abertawe

Gall siopwyr sy'n mynd i ganol dinas Abertawe'r Nadolig hwn deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

free bus survey

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd y cynnig cludiant cyhoeddus 'Bysus am Ddim Abertawe' yn dychwelyd ar gyfer y Nadolig ac mae'n dilyn menter teithio am ddim lwyddiannus a gynhaliwyd drwy gydol gwyliau'r haf.

Gan ddechrau ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig a bydd yn parhau am 5 niwrnod ychwanegol rhwng 27 a 31 Rhagfyr.

Mae'r cyngor yn annog aelodau'r cyhoedd sy'n teithio i ddefnyddio'r cynnig bysus am ddim ac arbed eu harian i'w wario ar deulu a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl.

Croesawodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y cynnig diweddaraf ac mae'n gobeithio y bydd pawb yn manteisio arno. Meddai, "Dyma'r trydydd tro rydym wedi darparu cludiant am ddim i deuluoedd yn Abertawe dros y Nadolig.

"Gall y Nadolig fod yn adeg ddrud iawn i bawb, ond mae'n ddrutach nag erioed gan ein bod yn dal i brofi'r argyfwng costau byw. Rydym yn ymroddedig i sicrhau y gall teuluoedd yn Abertawe arbed ychydig o arian ar gostau teithio, gadael y car gartref ac arbed eu harian petrol ar gyfer cyfnod yr ŵyl.

"Nid denu pobl i ganol y ddinas yw unig ddiben y cynnig hwn, ond rydym am i fusnesau elwa o weld mwy o bobl yn dod i'r ddinas. Mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd deithio ar draws Abertawe i ymweld â theulu neu fwynhau'r hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Un o'r prif nodau yw annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn Abertawe.

"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teithio mewn car, ac efallai nad ydynt wedi bod ar fws o'r blaen. Mae'r cynnig am ddim hwn yn ffordd wych o gyflwyno mwy o bobl i gludiant cyhoeddus a lleihau nifer y ceir ar ein ffyrdd.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi gweithredwyr cludiant cyhoeddus yn Abertawe ac yn gwneud popeth y gallwn i gynyddu nifer y teithwyr."  

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Tachwedd 2023